Newyddion S4C

Ceredigion: Miloedd yn arwyddo deiseb yn erbyn adeiladu tai ar faes parcio tref glan môr

Cei Newydd
Cei Newydd

Mae miloedd wedi arwyddo deiseb yn erbyn adeiladu tai ar faes parcio tref ar lan y môr yng Ngheredigion.

Mae dros 2,500 wedi arwyddo’r ddeiseb i wrthwynebu adeiladu 30 o dai ar faes parcio wrth ganol Cei Newydd.

Mae swyddogion cyngor y dref wedi argymell rhoi caniatâd cynllunio i’r cynllun £7.5m i adeiladu tai fforddiadwy ar y maes parcio sydd mewn dwylo preifat.

Ar hyn o bryd mae'r safle'n gweithredu fel maes parcio talu ac arddangos, sy'n eiddo i gwmni Barcud ac yn cael ei reoli ganddyn nhw fel menter fasnachol.

Mae’r rheini sydd wedi gwrthwynebu’r cais, gan gynnwys y Cyngor Tref, wedi codi pryderon am golli mannau parcio a’i effaith ar y diwydiant twristiaeth, a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn y dref ar gyfer trigolion.

Mae disgwyl y byddai 98 o bobl ychwanegol yn byw yn y tai. 

Mae’r cais cynllunio yn cynnwys cadw 91 o’r mannau parcio ar y safle - ac fe allai'r mannau parcio gael eu cadw “am byth” meddai swyddogion pe bai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo.

Mae’r cais wedi ei ohirio ddwywaith, ym mis Chwefror a mis Mawrth er mwyn asesu tystiolaeth ychwanegol gan y rheini oedd wedi codi pryderon am y datblygiad.

Image
Maes Parcio Cei Newydd

'Colli swyddi'

Mae Cymdeithas Masnachwyr Cei Newydd wedi creu deiseb ar-lein ac wedi gosod arwyddion cod QR o amgylch y dref yn annog pobl i arwyddo.

“Mae'r maes parcio yn ganolog i'n heconomi leol a bydd ei golli yn arwain at ostyngiad sylweddol mewn ymwelwyr a thwristiaid,” medden nhw.

“Mae'n syml - bydd llai o barcio yn arwain at lai o ymwelwyr.

“Bydd llai o ymwelwyr yn effeithio ar ein heconomi ac yn achosi colli swyddi. 

“Nid yn unig y bydd hyn yn effeithio ar dwf economaidd ond hefyd yn achosi tagfeydd traffig yn lleol a llai o leoedd parcio i drigolion lleol.”

Argymhellir y cais eto i'w gymeradwyo yng nghyfarfod pwyllgor rheoli datblygu Cyngor Sir Ceredigion ar 14 Mai.

Dywedodd adroddiad swyddogion y cyngor mai “dyfalu” oedd dweud y bydd y datblygiad yn effeithio ar “hyfywedd a bywiogrwydd y dref gyfan”.

“Cei Newydd yw’r dref gyda’r mwyaf o ail dai a thai rent tymor byr yn y sir a gallai ychwanegu 98 o drigolion parhaol at ganol y dref gyflwyno manteision economaidd sylweddol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.