Gwahodd artistiaid i greu 20 o fideos cerddoriaeth Cymraeg newydd
Mae artistiaid a chyfarwyddwyr wedi eu hannog i wneud cais i gael bod yn rhan o greu 20 o fideos cerddoriaeth Cymraeg newydd.
Mae PYST eisoes wedi creu 30 o fideos cerddoeiaeth Cymraeg ers sefydlu cronfa er mwyn gwneud hynny tair blynedd yn ôl.
Bydd trydedd rownd y gronfa yn cael ei lansio ar y cyd gyda S4C yng Ngŵyl FOCUS Wales yn Wrecsam ddydd Gwener.
Cafodd y gronfa ei sefydlu er mwyn cynnig cefnogaeth ariannol i artistiaid neu gyfarwyddwyr newydd a oedd heb greu fideo cerddoriaeth Gymraeg o’r blaen.
Mae'r fideos sydd wedi eu creu hyd yma yn cynnwys rhai gan Cyn Cwsg, Gwenno Morgan, Aleighcia Scott a chystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2025.
Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST Cyf ei fod yn “bleser mwynhau gweledigaeth a chyffro’r fideos hyd yma”.
"Nid yn unig maent wedi bod yn adnodd marchnata hanfodol i senglau yn cael eu rhyddhau ond mae hefyd wedi agor drysau i artistiaid a chyfarwyddwyr o bob cefndir a chymuned ymwneud â cherddoriaeth Cymraeg," meddai.
Ychwanegodd fod y fideos yn ychwanegu at amrywiaeth a chyfoeth y byd cerddorol yng Nghymru.
Dywedodd Beth Angell, Pennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol S4C: “Mae’n bleser llwyr i S4C gefnogi’r gronfa unwaith eto.”
“Mae’r creadigrwydd a chydweithio sydd wedi ei ddangos dros y blynyddoedd diwethaf yn destament i angerdd artistiaid ifanc o bob cwr o Gymru - ac mi ydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld talentau newydd yn cael cyfle eto eleni,” meddai.
Llun: Fideo Lafant - Sdim Mwg Heb Dân.