Arweinwyr Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i gynnal cyfarfod i drafod annibyniaeth
Mae Prif Weinidogion Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi trefnu cyfarfod yng Nghaerdydd ddydd Llun er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i ganiatau’r hawl i gynnal refferenda dros annibyniaeth.
Bydd Arweinydd yr SNP John Swinney a dirprwy arlywydd Sinn Féin Michelle O’Neill yn cwrdd â Rhun ap Iorwerth er mwyn arwyddo memorandwm cyd- ddealltwraeth sydd yn gwthio am yr hawl i gynnal refferendwm mewn gwledydd datganoledig.
Yn ôl adroddiadau’r Press Association, fe fydd y tri arweinydd yn cwrdd fel penaethiaid eu pleidiau gwleidyddol yn hytrach na mewn capasiti llywodraethol.
Nid oes refferwndwm annibyniaeth wedi’i gynnal ers i’r Alban bleidleisio o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, o 55.3% i 44.7%, yn 2014.
Mae Prif Weinidog y DU, Andy Burnham wedi dweud bod refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban “oddi ar y bwrdd”, ar ôl awgrymu y byddai’n agored i’r posibilrwydd pe byddai “consensws clir.”
‘Cydweithio’
Wrth siarad ar raglen Sunday with Laura Kuenssberg, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth: “Rydym yn siarad am sut y gallwn gydweithio.
“Byddwn yn siarad am yr hyn sydd gennym yn gyffredin a’r hyn nad oes gennym yn gyffredin.”
Ychwanegodd: “Mae rhywbeth hefyd sy’n ein clymu ni ynghyd. Y dyhead am agwedd wahanol gan Lywodraeth y DU.
“Gallai hynny fod ynghylch y cwestiwn cyfansoddiadol, neu, yn fwy uniongyrchol, gallai fod ynghylch cyllid teg, sicrhau bod adnoddau’n cael eu rhannu mewn ffordd gyfartal, sy’n teimlo’n deg, a bod gennym y pwerau i adeiladu’r dyfodol i’r bobl rydym yn eu cynrychioli.”
Ychwanegodd: “Rwy’n credu y gallwn gydweithio fel Prif Weinidogion ar draws yr ynysoedd hyn mewn ffordd gadarnhaol er budd y bobl rydym yn eu cynrychioli, gan gydnabod yn llwyr hefyd fod gwahaniaethau rhyngom.”
'Anghynaladwy'
Daw’r cyfarfod hefyd ar ôl i Ysgrifennydd Addysg yr Alban, Mairi McAllan, ddweud nad oedd refferendwm arall “oddi ar y bwrdd”.
“Rydym yn rhoi amser iddo oherwydd dyma’r trawsnewid sy’n caniatáu i’r Alban sefyll ar ei thraed ei hun yn y byd a mynd ati’n llawn i geisio sicrhau’r dyfodol gwell rydym ei eisiau.”
Ychwanegodd Ms McAllan fod “y sefyllfa bresennol yn y DU yn anghynaladwy”, gan gyfeirio at Brif Weinidogion Gogledd Iwerddon a Chymru yn cefnogi gadael y DU.
“Yr unig bobl nad oedd, tan yr wythnos diwethaf beth bynnag, i’w gweld yn deall hynny oedd Llywodraeth y DU.
“Ond fe safodd y Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos diwethaf ac roedd yn glir bod yn rhaid i’r Alban gael llwybr i ddewis ein dyfodol ein hunain.
“Felly rydym eisiau i hynny gael ei gytuno nawr mewn fformat cyfreithiol fel y gallwn fwrw ymlaen â’n mandad yn yr Alban.”
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Phlaid Cymru i holi am eu hymateb.
Lluniau: PA
