Newyddion S4C

Mwy o bobl ifanc yn 'gaeth' i gyfryngau cymdeithasol

25/09/2024
Cyfryngau cymdeithasol

Mae arbenigwyr iechyd wedi galw am gamau i amddiffyn pobl ifanc rhag defnydd niweidiol o gyfryngau cymdeithasol.

Daw'r alwad ar ôl i astudiaeth newydd awgrymu fod nifer cynyddol yn dangos "ymddygiad caeth" i blatfformau ar-lein.

Daeth yr astudiaeth i'r casgliad bod 11% o bobl ifanc yn eu harddegau ar draws 44 o wledydd ar gyfartaledd yn dangos defnydd “problemus” o gyfryngau cymdeithasol.

Yng Nghymru, roedd y ganran yn 12% yn ôl yr astudiaeth sydd wedi’i chyhoeddi gan gangen Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd.

Roedd tua 14% o bobl ifanc yn eu harddegau yn Lloegr a’r Alban yn dangos ymddygiadau tebyg i fod yn gaeth i gyfryngau cymdeithasol.

Mae hyn wedi cynyddu ar draws yr holl wledydd dan sylw'r astudiaeth ers cyn y pandemig, pan ddangosodd tua 7% yr hyn a elwir yn "ddefnydd problemus" o gyfryngau cymdeithasol.

Symptomau

Mae hyn yn cynnwys symptomau tebyg i fod yn gaeth, gan gynnwys: esgeuluso gweithgareddau eraill er mwyn treulio amser ar gyfryngau cymdeithasol; diddordeb cyson yn y platfformau a dadleuon cyson am eu defnydd.

Roedd symptomau eraill yn cynnwys dweud celwydd am faint o amser sy'n cael ei dreulio ar gyfryngau cymdeithasol; anallu i reoli'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol a phrofi teimladau o fod yn ddiymadferth wrth beidio â'u defnyddio.

Ar draws yr holl wledydd, nododd tua 36% o bobl ifanc yn eu harddegau gysylltiad “cyson” ar-lein gyda ffrindiau – sy’n golygu eu bod mewn cysylltiad â ffrindiau neu eraill “bron drwy’r amser trwy gydol y dydd”.

Cododd hyn i 53% o ferched 13 oed yn yr Alban a 47% yn Lloegr. 

Roedd cyfraddau yng Nghymru yn debyg i'r cyfartaledd a welwyd ar draws yr holl wledydd a astudiwyd.

Problemau gamblo

Mae’r astudiaeth, a holodd bron i 280,000 o bobl ifanc 11, 13, a 15 oed ar draws gwledydd yn Ewrop, Canolbarth Asia a Chanada yn 2022, hefyd yn tynnu sylw at bryderon ynghylch cyfran y bobl ifanc yn eu harddegau sy'n cael eu hystyried fel eu bod “mewn perygl o gamblo problemus”.

Dywedodd Dr Hans Henri P Kluge, cyfarwyddwr rhanbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop: “Mae’n amlwg y gall cyfryngau cymdeithasol gael canlyniadau cadarnhaol a negyddol ar iechyd a lles pobl ifanc.

“Dyna pam mae addysg llythrennedd digidol mor bwysig, ond eto mae’n parhau i fod yn annigonol mewn llawer o wledydd, a lle mae ar gael mae’n aml yn methu â chadw i fyny â phobl ifanc a thechnoleg sy’n datblygu’n gyflym.

“Rydyn ni’n gweld canlyniadau’r bwlch hwn, gyda gwaeth yn debygol o ddod, oni bai bod llywodraethau, awdurdodau iechyd, athrawon a rhieni yn cydnabod achosion sylfaenol y sefyllfa bresennol ac yn cymryd camau i’w unioni."

Ychwanegodd: “Mae’n amlwg bod angen gweithredu ar unwaith a pharhaus i helpu’r glasoed i droi’r llanw ar ddefnydd a allai fod yn niweidiol o’r cyfryngau cymdeithasol, y dangoswyd ei fod yn arwain at iselder, bwlio, pryder, a pherfformiad academaidd gwael.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.