Newyddion S4C

Gwahardd hysbysebion Nike a Sky ar ôl 'camarwain'

25/09/2024
y we

Mae hysbysebion gan Nike a Sky wedi cael eu gwahardd am ddefnyddio tactegau camarweiniol.

Roedd yr hysbysebion wedi eu creu i arwain pobl i wario arian yn ddiarwybod.

Mae'r tactegau'n cael eu disgrifio fel 'patrymau tywyll' o fewn y diwydiant hysbysebu.

Yn achos Nike, fe wnaeth y cwmni hysbysebu esgidiau am bris isel ar-lein gan arwain cwsmeriaid i glicio ar yr hysbyseb, cyn darganfod mai pris am esgidiau maint plant oedd yn cael eu hysbysebu.

Yn achos Sky, ni wnaeth y cwmni hysbysu'r ffaith y byddai cyfnod prawf am ddim i ddefnyddio Now TV yn golygu talu am gyfnod pellach os nad oedd yr archeb yn cael ei dileu'n ddiweddarach.

Dywedodd yr Awdurdod Safonau Hysbysebu fod eu dyfarniad yn rhan o waith ymchwil ehangach ar "bensaernïaeth dewis ar-lein", sydd wedi dod i sylw'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.

Mae pryderon wedi codi am y ffordd y mae cwmnïau'n gwerthu i gwsmeriaid ar-lein, yn cynnwys pa mor dryloyw yw prisiau a gwybodaeth am nwyddau, ffioedd cudd, a hysbysebion ffug a chamarweiniol.

Dywedodd Nike bod yr hysbyseb wedi ei greu gan gwmni The Sole Supplier heb unrhyw ddylanwad gan Nike ei hun. Fe ddywedon nhw hefyd nad oedden nhw'n   credu bod yr hysbyseb yn un camarweiniol.

Yn ôl Sky UK, sy'n masnachu fel Now bydd defnyddiwr sydd wedi dewis yr opsiwn aelodaeth yn cael ei hysbysu'n llawn eu bod hefyd yn ychwanegu treialon ychwanegol i'w basged. Byddant hefyd yn adnewyddu'n awtomatig am ffi ar ôl i'r treialon am ddim ddod i ben.

Ond dywedodd Sky hefyd y byddai’n cynnal “profion ar brofiad defnyddwyr”, yn benodol mewn perthynas â’r pryderon a godwyd gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu.
 

Llun: Pixabay


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.