Ollie Griffiths o'r Dreigiau yn derbyn diagnosis o diwmor
Mae’r Dreigiau wedi dweud y bydd eu chwaraewr rheng ôl Ollie Griffiths yn derbyn triniaeth feddygol ar ôl darganfod bod ganddo diwmor ar asgwrn ei gefn.
Mae'r chwaraewr 29 oed, sydd wedi chwarae 105 o weithiau i glwb rygbi ei dref enedigol yng Nghasnewydd, wedi penderfynu ar y cyd â’r clwb i gyhoeddi’r newyddion.
Mewn datganiad dywedodd y Dreigiau: “Ein hunig flaenoriaeth ar hyn o bryd yw ei iechyd a'i breifatrwydd ef a'i deulu.
“Bydd y clwb yn parhau i weithio gydag Ollie i sicrhau ei fod yn derbyn y gofal a'r gefnogaeth orau i gynorthwyo ei driniaeth.”
Dywedodd y clwb ei fod bellach yn cael triniaeth sy'n cael ei hadolygu'n fisol.
“Mae'n parhau i fod yn ffit ac yn iach, ac mae'n edrych ymlaen at ail adfer ei iechyd yn llawn,” meddai'r clwb.
Fe enillodd Griffiths gap dros Gymru yn erbyn Tonga oddi cartref yn 2017, ac mae hefyd wedi chwarae dros Gymru yn erbyn y Barbariaid.