Achub tri o bobl ifanc o chwarel ym Mlaenau Ffestiniog
Roedd rhaid achub tri o bobl ifanc wedi iddyn nhw fynd yn sownd mewn chwarel ym Mlaenau Ffestiniog.
Cafodd y gwasanaethau brys, Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn a gwirfoddolwyr Sefydliad Achub Ogof Gogledd Cymru eu galw i chwarel llechi Croesor-Rhosydd am 16:54 ddydd Sul.
Roedd un o'r bobl ifanc wedi llwyddo i ddianc a ffoniodd 999 gan ddweud bod y ddau berson arall yn sownd dan y ddaear mewn siambr oedd wedi cael ei boddi gan ddŵr.
Dywedodd bod un ohonynt wedi disgyn yn y dŵr.
Cafodd rhai o aelodau'r tîm achub mynydd eu galw i'r chwarel o Gaer a Chaergybi, ac roedd rhai wedi teithio o gynhadledd genedlaethol ogofa yn Llangollen.
"Fe aeth tîm ati i chwilio am y ddau berson oedd yn sownd, gan ddarparu diodydd twym a dillad sych iddyn nhw cyn eu cludo â rhaffau i leoliad diogel," meddai llefarydd.
Roedd aelodau eraill wedi ceisio darganfod lleoliad y person ifanc ffoniodd 999, wrth i'r tywydd waethygu a'r haul fachlud.
Cafodd ei ddarganfod a'i symud i leoliad diogel.
Fe ddaeth y digwyddiad i ben bron i saith awr ers yr alwad 999 i'r gwasanaethau brys.