Carcharu dyn 20 oed am ymosod ar ddwy fenyw yn Abertawe
24/09/2024Mae dyn 20 oed wedi cael ei garcharu am 11 mlynedd am ymosod ar ddwy fenyw yn Abertawe.
Clywodd Llys y Goron Abertawe sut y gwnaeth Leo Payne ymosod ar y fenyw gyntaf yn oriau mân 23 Mehefin yn ardal Strand y ddinas.
Llwyddodd y fenyw i redeg i ffwrdd, ond tua 40 munud yn ddiweddarach, ymosododd Payne ar ail fenyw ar Stryd Orchard.
Ymosododd arni yn rhywiol tra'n ceisio agor ei drowsus.
Llwyddodd y fenyw i ddianc hefyd wedi iddi weiddi am gymorth gan ddau aelod o'r cyhoedd oedd gerllaw.
Awr a hanner yn ddiweddarach, daeth adroddiadau fod Payne wedi cael ei weld ar Heol Walter gyda'i drowsus i lawr tra'n cwblhau gweithred rywiol.
Ymosododd Payne yn ddiweddarach ar ddyn, gan ei daro ar y llawr nifer o weithiau gyda photel win, gydag un o'r ergydion yn achosi anaf i'r pen.
Dywedodd y Dirprwy Brif Erlynydd y Goron ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru, Iwan Jenkins: "Fe aeth Leo Payne o gwmpas y ddinas yn cynnal ymosodiadau rhywiol brawychus a throseddau treisgar.
"Fe frwydrodd ei ddioddefwyr yn ei erbyn ac yn sgil eu hymdrechion, roeddem ni'n gallu gweithio gyda Heddlu De Cymru i sicrhau erlyniad llwyddiannus a fydd yn gweld Payne yn treulio amser yn y carchar am ei droseddau ofnadwy. "
Cafodd ei ddedfrydu i 11 mlynedd a thri mis yn y carchar, gyda chyfnod trwydded estynedig o bedair blynedd a naw mis a gorchymyn i gofrestru fel troseddwr rhyw.
