Heddlu'n ymchwilio ar ôl dod o hyd i gorff plentyn a menyw mewn eiddo
Mae’r heddlu yn ymchwilio i farwolaethau merch wyth oed a dynes 40 oed wedi i’r llu dod o hyd i'w cyrff mewn eiddo ym Manceinion.
Fe gafodd y ddwy eu canfod toc wedi 10.30 mewn eiddo ar Stryd De Radford yn Salford fore dydd Llun, meddai Heddlu Greater Manchester.
Mae’r llu yn “gweithio’n galed” er mwyn ceisio deall “beth ddigwyddodd” yn ystod y bore a wnaeth arwain at farwolaethau “trasig” y ddwy, meddai'r Ditectif Uwch-arolygydd Simon Moyles.
Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymchwiliad, meddai.
Ond fe ychwanegodd ei fod yn deall y bydd nifer o drigolion lleol yn pryderu wedi’r cyhoeddiad.
Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu bod teulu'r ferch a'r ddynes wedi cael gwybod am eu marwolaeth ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.