Ysgolion yn wynebu 'dewisiadau anodd' wrth geisio mynd i'r afael â heriau ariannol
23/09/2024
Ysgolion yn wynebu 'dewisiadau anodd' wrth geisio mynd i'r afael â heriau ariannol
"Dyma ein ystafell cynhadledd.
"'Dan ni wedi bod yn ffodus i gael grant."
Mae adeilad Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst, yn un gweddol newydd o dan gynllun PFI.
Mae'r gwaith cynnal a chadw, trwsio, yn gymharol ysgafn.
Hyd yn oed i ysgol fel hon, mae'r heriau ariannol yn sylweddol a'r pennaeth yn gorfod chwilio am botiau o gyllid ymhobman.
Grant gan bwy?
"Grant gan y Llywodraeth efo cynigion i bethau cymunedol lleol."
Er mwyn cadw o fewn eu cyllideb yn ddiweddar mae'r ysgol wedi peidio llenwi swyddi wrth i bobl ymddeol a phenodi staff ar gontractau byr.
Ond mae'r pennaeth yn ofni bod rhagor o ddewisiadau anodd i ddod.
"Rhaid ystyried ydyn ni'n gallu rhoi contractau i unrhyw un sydd wedi bod yma dros gyfnod dros dro.
"Os oes gyda ni dal ormodedd rhaid i'r Corff Llywodraethu a finnau ystyried os oes angen gwneud diswyddiadau gorfodol.
"Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar addysg ein pobl ifanc.
"Bydd llai o athrawon.
"Bydd rhaid cynyddu maint y dosbarthiadau.
"Rhaid hefyd lleihau nifer ein cyrsiau TGAU oherwydd dosbarthiadau bach mewn ambell i bwnc a bod o ddim yn rhoi gwerth am arian."
Mewn arolwg diweddar o aelodau undeb prifathrawon yr NAHT dywedodd dros hanner y 400 wnaeth ymateb eu bod yn wynebu diffyg ariannol yn y flwyddyn academaidd hon.
Roedd hynny yn gynnydd sylweddol ers yr arolwg diwethaf.
Roedd dros chwarter yn deud eu bod yn wynebu diffyg am y tro cyntaf.
Dywedodd pob un o'r ymatebwyr nad oedden nhw'n derbyn digon o arian i ateb gofynion disgyblion yn llawn.
Mae'r rhesymau dros yr heriau ariannol yn cynnwys y newid yn y cyllid sy'n dod gan awdurdodau lleol ond hefyd pethau fel chwyddiant, costau athrawon cyflenwi a'r cymorth i ddisgyblion efo anghenion dysgu ychwanegol.
Penaethiaid ysgolion cynradd oedd mwyafrif y rhai wnaeth ymateb.
Yn Llanelli, mae Ysgol Gymunedol Maes y Morfa yn wynebu diffyg o £110,000 y flwyddyn nesaf er eu bod nhw eisoes wedi torri nôl ar staff.
"Mae'n anodd ar y foment oherwydd diffyg staff.
"Ni wedi colli tri staff oherwydd hwn.
"Mwy o blant gydag anghenion yn dod fan hyn.
"A ni ddim yn gallu rhoi cynnydd iddyn nhw achos does dim digon o staff."
Mae'n bryder sy'n cael ei rannu gan aelodau undebau eraill.
"Mae'n cael effaith mawr ar addysg y plant.
"Dydy'r plant ddim am lwyddo cystal mewn dosbarth o 30 a mwy nag ydan nhw mewn dosbarthiadau llai."
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwarchod ariannu ysgolion ond mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am faint o arian mae pob ysgol yn ei dderbyn.
Mae rhai yn aros i weld a fydd y trefniant hwnnw'n newid.
"Ni mewn proses o edrych ar yr ail-strwythuro o ran yr haen ganol rhwng ysgolion a'r llywodraeth i weld os oes modd gwneud gwelliannau fyddai'n rhoi mwy o arian i gyllidebau ysgolion.
"Bydd 'na ddisgwyl brwd i weld beth yw canlyniadau hwnnw."
Nôl yn Ysgol Dyffryn Conwy mae'r trafod yn parhau a'r penderfyniadau anodd yn pentyrru.