Galw am fwy o gymorth meddyliol ar ôl cael diagnosis o fath o glefyd y croen
23/09/2024
Galw am fwy o gymorth meddyliol ar ôl cael diagnosis o fath o glefyd y croen
"Chi'n gallu gweld e ar fy mreichiau ac ar fy nghoesau mae'n waeth."
Cyflwr corfforol sy 'di gadael ei ôl yn feddyliol.
I Lewis sy'n 23 o Gaerdydd wedi diagnosis o psoriasis yn ei arddegau cynnar mae e 'di bod ar siwrnai hir ac anodd yn enwedig heb gymorth digonol gan y gwasanaeth iechyd.
"Yn yr uwchradd, roedd llawer o fwlio o blant yn gweld y psoriasis.
"Mae plant a phobl yn eu harddegau'n gallu bod yn gas iawn.
"Dw i'n 23 nawr.
"Mae'r bwlio 'di stopio ond mae'r hunanhyder byth 'di dychwelyd o beth oedd e cyn cael y diagnosis o psoriasis."
Gest ti dy gymryd o ddifri gan y gwasanaeth iechyd?
"Ces i ddim byd wrth gael y diagnosis o psoriasis.
"Maen nhw'n meddwl am y corfforol ond dim am y meddwl.
"Roedd yn rhaid i fi wneud y dewis i ofyn am help pan o'n i'n 16.
"Ces i ddim erioed yr help o'n i angen wrth edrych yn ôl."
Yn y pendraw, trodd Lewis at wasanaethau preifat am gymorth.
Gwybod dy werth yw cri Eden gyda'r grŵp 'di troi'n fwy diweddar at roi llwyfan i drafod hunan-werth a lles meddyliol.
Ac i un o'r tair sydd bellach 'di hyfforddi fel therapydd mae'r corff a'r meddwl yn mynd law yn llaw.
"Mae'n hawdd iawn i gynnig cyffuriau cyn ystyried siarad.
"Rhywbeth mor syml a siarad.
"Mae'n bwysig bod ni'n adnabod bod triniaeth holistig sef trin y meddwl a'r emosiynau yn yr un ffordd ni'n trin y corff mor werthfawr."
Mae penderfyniadau anodd o'n blaenau.
Gydag arian yn brin, mae penderfyniadau anodd i'w gwneud meddai'r Prif Weinidog newydd.
Yn ôl un elusen iechyd meddwl, mae hynny'n fawr o gysur i bobl sy'n aros am wasanaethau iechyd meddwl.
Yn ôl targed swyddogol y Llywodraeth dylai neb yng Nghymru aros yn hirach na 26 wythnos i gael mynediad at therapiau seicolegol y gwasanaeth.
Yn ôl Mind Cymru, mae'r realiti yn gwbl wahanol.
"Mae'r rhestrau aros mor hir ar gyfer therapiau seicolegol.
"Mae'r therapi yma'n gallu newid bywydau ac achub bywydau.
"Mae pobl wir angen y driniaeth."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gwella'r gallu i gael gafael ar gefnogaeth iechyd meddwl yn flaenoriaeth.
Bydd £2 filiwn yn mynd at wella'r gwasanaethau gan gynnwys therapi seicolegol.
Mae ymgynghori wedi digwydd yn ddiweddar hefyd i'r weledigaeth o gyflwyno gwelliannau dros y degawd nesaf.
Yn ôl Lewis, gollodd e'r cyfle i gael help yn gynt.
Mae effeithiau'r cyfnod hwnnw yn graith ar ei arddegau.
Mae'n gobeithio bydd pethau'n gwella i eraill.