Newyddion S4C

Heddlu De Cymru yn meddiannu mwy o feiciau trydan sy'n 'beryg bywyd'

24/09/2024
E-feic

Mae mwy a mwy o feiciau trydan yn cael eu meddiannu gan Heddlu De Cymru.

Mae heddluoedd yn dweud eu bod nhw'n “beryg bywyd” i gerddwyr.

Fe gynyddodd nifer y beiciau trydan wnaeth Heddlu De Cymru eu meddiannu o 66 i 137 yn y flwyddyn hyd at Awst 11.

Roedd hynny’n cynrychioli 14% o’r 937 o feiciau trydan a gafodd eu meddiannu gan yr heddlu ar draws y DU, yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan wasanaeth newyddion PA.

Roedd y llu ymysg yr heddluoedd a welodd y cynnydd blynyddol mwyaf.

Ail yn unig oedd Heddlu De Cymru o ran cynnydd i Heddlu'r Alban, a welodd cynnydd o 60 i 233 ar draws y genedl gyfan. Ni wnaeth bob heddlu ddarparu ffigyrau blwyddyn ar flwyddyn.

Yn gyfreithiol rhaid i’r modur mewn beiciau trydan atal pan mae’n cyrraedd dros 15.5 milltir yn awr. Ond mae heddluoedd yn gweld bod nifer yn cael eu haddasu er mwyn cyrraedd cyflymder uwch.

Roedd Heddlu Dinas Llundain wedi meddiannu un beic trydan oedd yn gallu cyrraedd 70mya ac eisoes wedi teithio dros 6,000 o filltiroedd.

‘Anaf difrifol’

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dinas Llundain bod beiciau trydan o’r fath yn “beryg bywyd” ac y gallai “eu lladd nhw neu rywun arall.”

Doedd y llu ddim wedi gallu darparu ffigyrau flwyddyn ar flwyddyn, 

Dywedodd y Rhingyll Dros Dro Chris Hook, sy’n rhan o’r tîm arwain yn uned feicio Heddlu Dinas Llundain bod y beiciau yn gallu apelio at ladron.

“Mae cyflymder a phŵer uchel y cerbydau hyn yn golygu eu bod yn ddelfrydol i feicwyr ddod i mewn, cymryd y ffôn a mynd i ffwrdd cyn i’r dioddefwr wybod beth sydd wedi digwydd,” meddai.

Ychwanegodd fod cyflymder a phwysau beiciau trydan sydd wedi’u haddasu’n anghyfreithlon yn cynyddu’r perygl i gerddwyr mewn gwrthdrawiadau.

“Yr un trymaf a welais oedd dros 50kg,” meddai. “Gallai gyrraedd 60mya.

“Os yw’n bwrw rhywun, mae’n debygol o achosi naill ai anaf difrifol neu farwolaeth.”

Llun: PA /  Jonathan Brady.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.