Ysmygu yn achosi 10% o farwolaethau Cymru
Mae dros 10% o farwolaethau pobl dros 35 oed yng Nghymru o ganlyniad i ysmygu, medd adroddiad newydd.
Yn ôl dadansoddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, bu farw 3,845 o bobl ar gyfartaledd rhwng 2020 a 2022 oherwydd ysmygu.
Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru bod y ffigyrau diweddaraf yma’n “syfrdanol”.
Dylai atgoffa pobl fel mater o “frys” meddai am yr effaith dinistriol caiff ysmygu ar deuluoedd.
“Heb os, mae ‘na angen i weithredu ar unwaith er mwyn helpu ysmygwyr i roi'r gorau iddi am byth," meddai.
“Mae’r data yn glir: ni allwn ni fforddio i beidio â gweithredu."
Roedd y nifer o bobl a fu farw dair gwaith yn uwch yng nghymunedau “mwy difreintiedig” gan ddangos “anghydraddoldeb amlwg” rhwng rhai cymunedau, medd adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru.
'Costau anferthol'
Ar gyfartaledd, roedd dros 17,000 o bobl aeth i’r ysbyty hefyd yn dioddef o gyflyrau oedd yn gysylltiedig ag ysmygu. Mae hyn yn ychwanegu “pwysau sylweddol” ar y system gofal iechyd.
Dywedodd Chris Emmerson, sef ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod angen ymdrech pellach i fynd i’r afael ag ysmygu yng Nghymru, er gwaethaf y “cynnydd gwirioneddol rydym wedi'i wneud i leihau'r niferoedd sy'n dechrau smygu a'r cymorth i smygwyr roi'r gorau iddi.”
“Mae'n amlwg bod angen i ni wneud bob ymdrech i fynd i'r afael â smygu os ydym am fynd i'r afael â'r costau iechyd ac ariannol anferthol hyn ar gyfer pobl Cymru,” meddai.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd y Bil Tybaco a Fêps, a gyflwynwyd gyntaf gan lywodraeth flaenorol y DU, yn dychwelyd i Senedd San Steffan yn ystod y tymor presennol.
Roedd y corff wedi croesawu darpariaethau'r Bil blaenorol na ddaeth yn ddeddf. Roedd y Bil yn cynnwys gwahardd gwerthu tybaco i bawb a anwyd ar ôl 1 Ionawr 2009.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog ysmygwyr yng Nghymru i geisio am gymorth er mwyn rhoi’r gorau drwy gynllun ‘Helpa Fi i Stopio’. Fe wnaeth y cynllun helpu dros 16,000 o bobl y llynedd.