Caernarfon yn chwilio am eu hail fuddugoliaeth o'r tymor yn Y Fflint
Mi fydd hi’n gem fawr tua’r gwaelodion nos Fercher gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r Fflint a Chaernarfon yn yr hanner isaf.
Y Fflint (10fed) v Caernarfon (8fed) | Nos Fercher – 19:45
Roedd Y Fflint wedi dringo o’r ddau isaf ar ôl dwy fuddugoliaeth yn olynol, ond bydd Lee Fowler yn siomedig mae’r Sidanwyr oedd y tîm cyntaf i fethu a churo Llansawel ar ôl y gêm gyfartal dros y penwythnos.
Mae Caernarfon wedi cael dechrau digon araf i’r tymor, a dyw’r Caneris ond wedi ennill un o’u 10 gêm ddiwethaf oddi cartref yn y gynghrair.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ͏❌❌✅✅➖
Caernarfon: ➖❌❌✅➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru