Newyddion S4C

Cymru Premier JD: Penybont yn herio Llanswel a'r Barri yn teithio i Hwlffordd

Sgorio 24/09/2024
Penybont

Mae rhediad rhagorol Y Seintiau Newydd o 30 buddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair wedi dod i ben yn dilyn colled o 2-1 oddi cartref ym Mhen-y-bont nos Wener.

Roedd dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i’r pencampwyr fethu ag ennill gêm gynghrair (0-0 vs Bala ym mis Medi 2023), a doedd criw Craig Harrison heb golli’n y Cymru Premier JD ers mis Chwefror 2023 (Met 3-2 YSN).

Mae’r fuddugoliaeth i Ben-y-bont yn golygu mai nhw yw’r unig dîm sydd heb golli’n y gynghrair y tymor hwn, ac mae tîm Rhys Griffiths yn dal driphwynt uwchben Met Caerdydd ar y brig.

Bydd Pen-y-bont yn gobeithio parhau â’u rhediad di-guro nos Fawrth pan fyddan nhw’n croesawu Llansawel, sef y tîm enillodd eu pwynt cyntaf ers eu dyrchafiad dros y penwythnos.

Cei Connah (9fed) v Y Drenewydd (4ydd) | Nos Fawrth – 19:45

Mae Cei Connah wedi llithro i’r 9fed safle yn dilyn rhediad rhwystredig o dair colled yn olynol yn y gynghrair yn erbyn clybiau’r de (Y Barri, Pen-y-bont, Met Caerdydd).

Bydd Billy Paynter yn benderfynol o droi’r gornel nos Fawrth er mwyn osgoi colli pedair gêm gynghrair yn olynol, rhywbeth dyw’r Nomadiaid heb ei wneud ers Tachwedd 2013.

Mae’r Drenewydd wedi dechrau’r tymor yn gadarn, ac ar ôl chwarae chwarter eu gemau cynghrair y tymor hwn mae’r Robiniaid yn 4ydd ac mewn safle addawol i gyrraedd y Chwech Uchaf eto eleni.

Zeli Ismail yw’r gŵr sydd wedi serennu i’r Drenewydd, ac ar ôl creu saith gôl y tymor yma, yr asgellwr sydd ar frig rhestr y creuwyr a rhestr y cyfranwyr goliau.

Mae Cei Connah ar rediad o naw gêm heb golli yn erbyn Y Drenewydd, ac ond wedi colli un o’u 20 gornest ddiwethaf yn erbyn y Robiniaid ers 2016 (Cei 0-2 Dre, Hydref 2021).

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ͏✅✅❌❌❌

Y Drenewydd: ͏✅❌✅✅➖

Hwlffordd (3ydd) v Y Barri (7fed) | Nos Fawrth – 19:45

Mae Hwlffordd yn hedfan ac yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chwtogi i 12 tîm.

Dyw’r Adar Gleision heb orffen yn uwch na’r 7fed safle ers tymor 2004/05 pan lwyddon nhw i gyrraedd y 4ydd safle gyda dim ond Y Seintiau Newydd, Y Rhyl a Bangor yn gorffen uwch eu pennau y flwyddyn honno.

Yr amddiffyn cryf yw’r prif reswm dros lwyddiant Hwlffordd eleni, gan nad oes neb wedi ildio llai na’r Adar Gleision (3 gôl mewn 8 gêm) gan gadw pum llechen lân.

Mae canlyniadau’r Barri wedi gwella’n sylweddol dros y mis diwethaf gyda’r Dreigiau ond colli dim ond unwaith mewn pum gêm ym mhob cystadleuaeth, a’r golled honno yn erbyn YSN.

Ond yn y dair blynedd diwethaf, dyw’r Barri heb ennill dim un o’u wyth gornest yn erbyn Hwlffordd (colli 5, cyfartal 3).

Record cynghrair diweddar:

Hwlffordd: ➖͏✅❌❌✅

Y Barri: ❌✅✅❌➖

Pen-y-bont (1af) v Llansawel (12fed) | Nos Fawrth – 19:45

Bydd y clwb ar y copa’n cyfarfod y tîm sydd ar waelod y domen yn Stadiwm Gwydr SDMnos Fawrth.

Ar ôl eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Y Seintiau Newydd, mae Pen-y-bont bellach wedi ennill pum gêm gynghrair yn olynol, ac ond wedi colli un o’u 18 gêm gystadleuol ddiwethaf.

Roedd yna ryddhad i Lansawel brynhawn Sadwrn wrth i dîm Andy Dyer sicrhau gêm gyfartal 1-1 gartref yn erbyn Y Fflint i hawlio eu pwynt cyntaf ers eu dyrchafiad dros yr haf.

Mae’r timau yma eisoes wedi cyfarfod ddwywaith y tymor hwn gyda Pen-y-bont yn curo Llansawel o 3-0 yng Nghwpan Nathaniel MG yng ngêm gynta’r tymor, cyn i dîm Rhys Griffiths ennill eto o 2-0 wythnos yn ddiweddarach ar benwythnos agoriadol y gynghrair.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ͏✅✅✅✅✅

Llansawel: ❌❌❌❌➖

Y Seintiau Newydd (5ed) v Y Bala (6ed) | Nos Fawrth – 19:45

Ar ôl cyfnod rhyfeddol o 587 o ddyddiau heb golli gêm gynghrair, daeth y rhediad anhygoel hwnnw i ben i’r Seintiau nos Wener.

Bydd Craig Harrison ddim yn digalonni’n ormodol am fod gan ei dîm dair gêm wrth gefn, a byddai ennill rheiny yn codi’r Seintiau i frig y tabl.

Dyw’r Bala ond wedi colli dwy o’u 13 gêm gynghrair ddiwethaf oddi cartref, a daeth y ddwy golled rheiny yn erbyn Y Seintiau Newydd yn Neuadd y Parc.

Tydi’r Bala erioed wedi ennill oddi cartref yn Neuadd y Parc, a dyw cewri Croesoswallt heb golli gartre’n y gynghrair ers Mawrth 2022 (0-1 vs Drenewydd).

Ers hynny, mae’r Seintiau wedi chwarae 36 o gemau cynghrair yn Neuadd y Parc gan ennill 34 a chael dwy gêm gyfartal yn erbyn Pen-y-bont a’r Barri.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅❌

Y Bala: ➖❌❌✅➖

Aberystwyth (11eg) v Met Caerdydd (2il) | Nos Fawrth – 20:00

Mae Aberystwyth ar rediad siomedig o bum colled yn olynol yn y gynghrair, gan fethu a sgorio yn eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf.

Does neb wedi sgorio llai (4) nac ildio mwy (20) nag Aberystwyth ar ôl wyth gêm y tymor hwn, ac mae tîm Anthony Williams bellach driphwynt o dan diogelwch y 10fed safle.

Ar ben arall y tabl mae Met Caerdydd yn mwynhau tymor campus, ac ond wedi colli unwaith mewn 10 gem ym mhob cystadleuaeth yn 2024/25.

Mae Met Caerdydd ar rediad o saith gêm heb golli yn erbyn Aberystwyth, a dyw’r Gwyrdd a’r Duon heb ennill gartref yn erbyn y myfyrwyr ers Chwefror 2019.

Record cynghrair diweddar:

Aberystwyth: ͏❌❌❌❌❌

Met Caerdydd: ͏➖✅✅❌✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.