Newyddion S4C

Cymru 'ar ei hôl hi' wrth drosglwyddo asedau i ofal cymunedau

24/09/2024
Goriad

Mae Cymru “ar ei hôl hi” o'i gymharu â gweddill y DU o ran annog cymunedau i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros adeiladau a thir lleol allweddol, medd adroddiad. 

Yn ôl gwaith ymchwil gan Brifysgol Caledonian Glasgow mae’r broses o drosglwyddo asedau cymunedol yng Nghymru yn gallu bod yn “heriol”.

Mae rhai cymunedau yn cael eu rhwystro ac yn wynebu oedi gan rai awdurdodau lleol.

Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod diffyg hyfforddiant, prinder gwirfoddolwyr a phoblogaeth hŷn mewn cymunedau ymhlith rhai o’r prif heriau y mae Cymru yn eu hwynebu. 

Cymunedau gwledig oedd y prif ffocws gan mai yno y mae’r heriau mwyaf o ran diffyg gwasanaethau cyhoeddus, prinder tai “o safon”, a phobl ifanc yn gadael yr ardal.

Cafodd yr ymchwil ei ariannu gan Sefydliad Nuffield ac Academi Prydain a'i gynnal dros gyfnod o ddwy flynedd. 

Roedd Prifysgol Bangor ymhlith rhai o’r prifysgolion oedd wedi cydweithio gyda Phrifysgol Caledonian Glasgow. 

Dywedodd Dr Danielle Hutcheon o Brifysgol Caledonian Glasgow: “Ar hyn o bryd does gan Gymru ddim deddfwriaeth sy’n rhoi’r hawl i gymunedau brynu, gwneud cais am dir neu asedau eraill.”

'Galw am ddeddfwriaeth' 

Fel rhan o’r gwaith ymchwil dywedodd pobl eu bod yn teimlo fod Cymru “yn benodol” ar ei hol i o gymharu â gwledydd eraill y DU, meddai. 

Mae'r adroddiad yn dweud bod rhai awdurdodau lleol yn achosi “problemau” yn ystod y broses, gan nad yw nifer ohonynt yn ymddiried yn y trigolion lleol nac yn hyrwyddo’r syniad o berchnogi adeiladau a thir yn y gymuned.

Yn ôl Eleri Williams, Cynghorydd Polisi ac Ymchwil o Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, maen nhw wedi bod yn “galw ers tro am gyflwyno deddfwriaeth i alluogi cymunedau i berchenogi neu reoli tir ac asedau.” 

Noda'r ddogfen fod angen i Lywodraeth Cymru “gryfhau a thynhau” deddfwriaeth a chanllawiau.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn croesawu’r argymhellion gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac wedi sefydlu Comisiwn i ysgogi meddwl arloesol ar berchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau yng Nghymru.”

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.