Newyddion S4C

'Da ni wedi cael ein gadael i lawr': Teulu Aled Glynne Davies yn beirniadu Heddlu'r De

23/09/2024

'Da ni wedi cael ein gadael i lawr': Teulu Aled Glynne Davies yn beirniadu Heddlu'r De

Mae teulu cyn-olygydd BBC Radio Cymru, Aled Glynne Davies, wedi beirniadu Heddlu De Cymru am eu hymchwiliad wedi iddo farw yn ddamweiniol yn Afon Taf ar Nos Galan.

Cafodd corff Mr Davies ei ddarganfod yn y dŵr ger Canolfan Hwylio Caerdydd ar 4 Ionawr y llynedd. 

Fe wnaeth crwner gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol ddydd Llun, gan ddweud ei bod yn “debygol fod Aled Glynne wedi disgyn i mewn i’r afon wrth iddo gael galwad i droethi [pasio dŵr] wrth fynd am dro, a hynny oherwydd cyflwr meddygol”.

Fe gafodd swyddog o Heddlu De Cymru, DC Chris Hughes, ei holi am ymchwiliad y llu i’r achos. 

Fe wnaeth DC Hughes gydnabod nad oedd yr ymchwiliad yn ddigonol, gan ychwanegu fod yna “wersi i’w dysgu”. 

Mae'r achos wedi cael ei gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Clywodd y cwest fod yna fwlch o dair i bedair awr wedi bod rhwng yr alwad gyntaf i’r heddlu i adrodd fod Mr Davies ar goll ac ymweliad cyntaf swyddogion â’r teulu. 

Cafodd yr achos hefyd ei drin yn wreiddiol fel un ar raddfa ganolig cyn cael ei uwchraddio bron i 24 awr yn ddiweddarach. 

'Roedd Aled yn haeddu gwell'

Dywedodd mab Aled Glynne Davies, Gruffudd Glyn, ei fod yn teimlo fod y teulu “wedi cael ein gadael i lawr, ac mi fyddai’n ei chael hi’n anodd i ymddiried yn yr heddlu fyth eto". 

"Dydyn ni ddim isio unrhyw deulu arall i fynd drwy hyn," meddai.

Ychwanegodd gweddw Mr Davies, Afryl Davies, fod Heddlu De Cymru wedi “gwrthod cydweithio gyda CAVRA”, sefydliad chwilio ac achub gwirfoddol a’u bod wedi “gwrthod cael unrhyw beth i wneud gyda nhw”.

“Dwi yn gobeithio y bydd yna newid. Dan ni yn haeddu gwell, roedd Aled yn haeddu gwell,” meddai. 

Aeth y teulu yn eu blaen i ddweud mai’r nhw wnaeth arwain yr ymgyrch chwilio a hynny ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud mai “Heddlu De Cymru oedd wedi ein dilyn ni”.

Wrth gyflwyno ei chanfyddiadau, fe soniodd y crwner Kate Robertson am adroddiad atal marwolaethau, gan ddweud fod pob cwest yn ystyried os oes pryderon sydd ym marn y crwner yn golygu bod adroddiad angen cael ei anfon i sefydliad er mwyn cymryd camau i atal marwolaethau yn y dyfodol neu i leihau risg. 

Dywedodd y crwner fod materion wedi codi yn y dystiolaeth ynglyn â phrosesau Heddlu’r De am bobl sydd ar goll, a'i bod yn derbyn bod ymchwiliad Heddlu'r De wedi bod yn un "digyswllt".

Ychwanegodd: “Nid wyf yn glir pa argymhellion sydd wedi eu gweithredu a pha rai sydd ddim.”

Aeth yn ei blaen i ddweud bod angen diweddariad ysgrifenedig gan Heddlu’r De i ddeall pa argymhellion sydd wedi eu gwneud a pha rai sydd heb, gan ddweud y bydd yn ysgrifennu at y llu i ddeall yn iawn lle mae’r materion hynny. 

Bydd yn gohirio ei phenderfyniad o ran atal marwolaethau nes ei bod wedi clywed ymhellach gan y llu, ond bod "angen sicrwydd" fod yr argymhellion "am gael eu gweithredu o fewn cyfnod rhesymol”. 

Dywedodd Heddlu De Cymru wrth Newyddion S4C: "Ar hyn o bryd mae’r mater hwn yn destun adolygiad gan y Swyddfa Annibynnol i Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn dilyn cais gan deulu Aled Glynne Davies. 

"Tra ein bod yn aros am eu canlyniad nid yw’n briodol gwneud sylw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.