Llywodraethau Llafur i gydweithio i 'wella gwasanaethau iechyd Cymru a Lloegr'
Mae Llywodraethau Cymru a’r DU yn dweud y byddan nhw’n cydweithio i wella’r GIG yma yng Nghymru ac yn Lloegr.
Daw’r cyhoeddiad mewn araith yn ddiweddarach ddydd Llun gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, yng nghynhadledd flynyddol y Blaid Llafur yn Lerpwl.
Mae disgwyl iddi ddweud y bydd Llywodraeth y DU yn dysgu gan Wasanaeth Iechyd Cymru (GIG) am ddeintyddiaeth, tra bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar “arfer gorau” GIG Lloegr.
Mae gofal iechyd wedi’i ddatganoli, sy’n golygu mai Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei harwain gan Eluned Morgan, sy’n gyfrifol am y GIG yng Nghymru.
Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU, yn San Steffan, yw’r GIG yn Lloegr.
Yn ôl ffigyrau’r wythnos ddiwethaf, mae rhestrau aros y GIG yng Nghymru wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed, gyda thua 593,000 o bobl yn aros am driniaeth.
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu gweinidogion Llafur Cymru ers tro am sut maen nhw wedi delio â'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.
Yn 2023, fe wnaeth Ysgrifennydd Iechyd Ceidwadol y DU ar y pryd, Steve Barclay, gynnig tebyg i gydweithio. Cafodd y cynnig ei wrthod gan wleidyddion Cymreig am fod yn gymhelliad gwleidyddol.
Ond mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif Weinidog Cymru wedi canmol y bartneriaeth newydd hon fel prawf o’r fantais o gael llywodraethau Lafur yng Nghaerdydd a San Steffan.
Mae disgwyl i Jo Stevens ddisgrifio’r bartneriaeth yng nghynhadledd Llafur fel “dechrau ffordd newydd o gydweithio a fydd yn helpu i wella canlyniadau yn y ddwy wlad a chyflawni ein hamcanion".
Y sector breifat
Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, mae yna lawer y gall y ddwy lywodraeth ddysgu o'i gilydd.
Mae Ysgrifennydd yr Wrthblaid dros Gymru, yr Arglwydd Byron Davies wedi dweud bod y newyddion yn "gam i'r cyfeiriad cywir".
"Ond, wrth symud ymlaen, mae angen i ni hefyd weld gweinidogion Llafur yn rhoi’r gorau i dorri cyllid y GIG i ariannu cynlluniau cwbl ddibwrpas, fel dros £100 miliwn ar fwy o wleidyddion yn Senedd Cymru," meddai.
Gallai'r bartneriaeth fod yn anghyfforddus i Lafur Cymru am fod y llywodraeth yn San Steffan wedi dweud bod angen edrych ar ddefnyddio'r sector breifat lle bod hynny’n helpu i dorri rhestrau aros.
Mae Llafur Cymru wedi gwrthwynebu defnyddio cwmnïau preifat, gan addo yn ei maniffesto yn 2011 i “ddileu’r defnydd o ysbytai’r sector preifat yng Nghymru.”