Newyddion S4C

‘S'dim pwynt cadw fynd’: Dyfodol ansicr i deulu enillodd wobr am eu 'dewrder' yn wyneb TB

‘S'dim pwynt cadw fynd’: Dyfodol ansicr i deulu enillodd wobr am eu 'dewrder' yn wyneb TB

Mae teulu a enillodd wobr am eu "dewrder" mewn rhaglen deledu ar y diciâu wedi dweud ei fod yn “galed i gredu” y bydd dyfodol i’w fferm.

Fe enillodd Wyn ac Enid Davies, sy'n rhedeg fferm deuluol yng Nghastell Howell, Gapel Isaac ger Llandeilo, wobr Goffa Bob Davies Undeb Amaethwyr Cymru ym mis Awst.

Roedd hynny wedi iddyn nhw wahodd Ffermio i ffilmio'r broses o ddifa chwarter eu buches odro oherwydd y diciâu.

Ers 2020, mae'r teulu wedi colli 180 o wartheg oherwydd y diciâu.

Wrth gael eu gwahodd yn ôl ar Ffermio nos Lun dywedodd Wyn ac Enid Davies eu bod nhw wedi dioddef ergyd arall.

Mae’r teulu yn dal i fyw dan gwmwl TB wedi i’r prawf mwyaf diweddar y fferm ddarganfod tri adwaith amhendant ('inconclusive reactors').

Roedd hynny’n golygu medd Enid eu bod nhw ar ôl misoedd o ddisgwyl i gael gwerthu da “yn ôl i ble dechreuon ni nawr reit ar y dechrau”.

Dywedodd Wyn Davies wrth Ffermio ei fod yn “ergyd ar y jiawl”.

“Sa’i ffili dependo ar shed lath, so fe’n talu bills,” meddai.

Wrth gael ei holi beth am y dyfodol, dywedodd: “Paco lan. S’dim pwynt cadw fynd. 

“Fi yw’r trydydd cenhedlaeth yma. Mae’r plant yn dod - pedwaredd genhedlaeth.

“Sai’n gwybod os bydd chance iddyn nhw gael ffermo.

“Mae’n galed i gredu fyddwn ni’n godro fan hyn mewn llai na blwyddyn.”

Profion

Ar hyn o bryd, mae profion ar gyfer y diciâu yn orfodol ar gyfer pob fferm wartheg er mwyn ceisio rheoli'r clefyd.

Mae'r teulu yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych eto ar sut mae’r profion yn cael eu cynnal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn “ymwybodol iawn” o “effaith ddifrifol TB buchol ar iechyd a lles ffermwyr a'u teuluoedd”.

Yr wythnos diwethaf fe wnaethon nhw gyhoeddi enwau aelodau eu Bwrdd Rhaglen Dileu TB Gwartheg newydd, a fydd yn rhoi cyngor strategol i swyddogion y llywodraeth.

Dywedodd Wyn ac Enid Davies bod eu profiad nhw wedi bod yn “nightmare” a’i fod yn “gyfnod tywyll”.

Ond roedden nhw’n falch eu bod nhw wedi siarad gyda Ffermio ac yn ddiolchgar am wobr Undeb Amaethwyr Cymru.

Roedd yn sioc pan ffeindion ni mas,” meddai Enid.

“Ry’n ni’n browd iawn o’r ffon fugail ni wedi cael ond fel wedon ni ar y noson ro’n ni wir ddim yn disgwyl dim byd.

“Moyn i bobl wybod be sy’n digwydd o ddydd i ddydd ar glos ffarm a gobeithio yn y dyfodol bod o’n helpu pobl eraill i sefyll lan a siarad amdanyn nhw eu hunain.

“A bod o’n mynd i helpu dipyn bach gyda’r iechyd meddwl i bobl beidio teimlo eu bod nhw eu hunain hefyd yn y pen draw.”

Bydd Ffermio ar S4C am 21.00 nos Lun, 23 Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.