Newyddion S4C

Menyw wedi ei chyhuddo o lofruddio bachgen yn Hwlffordd yn ymddangos yn y llys

ITV Cymru 23/09/2024
S4C

Mae menyw sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio bachgen saith oed yn Sir Benfro yn gynharach eleni wedi ymddangos yn y llys.

Mae Papaipit Linse, 43 oed, wedi’i chyhuddo o ladd Louis Linse yn Hwlffordd ar 10 Ionawr.

Ni chyflwynwyd unrhyw ble pan ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.

Cyhoeddwyd bod Louis wedi marw yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg ar ôl i’r heddlu gael eu galw i gyfeiriad ar Stryd y Farchnad Uchaf yn y dref.

Ym mis Ionawr, dywedodd swyddog y crwner PC Carrie Sheridan wrth Lys Crwner Sir Benfro: “Am 10.44 ddydd Mercher Ionawr 10, derbyniodd yr heddlu alwad ffôn brys yn adrodd am farwolaeth plentyn.

“Cafodd ei gludo i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg. Er gwaethaf ymdrechion gorau’r gwasanaethau brys yn y fan a’r lle a staff meddygol yr ysbyty, cyhoeddwyd ei fod wedi marw am 12:00 ddydd Mercher Ionawr 10.”

Dywedodd y barnwr, Paul Thomas KC, y byddai gwrandawiad pellach ar 25 Hydref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.