Darganfod corff mewn afon wrth chwilio am ddyn oedd ar goll
23/09/2024
Mae teulu dyn oedd ar goll wedi cael gwybod bod corff wedi ei ddarganfod mewn afon yng Nghwmbrân.
Cafwyd hyd i'r corff ddydd Sul ac mae teulu Richard Garner, 64 oed, oedd yn destun ymdrech i chwilio amdano, wedi cael gwybod am y datblygiad.
Fe'i gwelwyd diwethaf ddydd Sadwrn ar lyn ger Ffordd Llanfrechfa, Cwmbrân, am tua 16.30.
Dywed Heddlu Gwent nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus a bod y llu yn anfon eu dymuniadau at y teulu.
Bydd adroddiad yn cael ei baratoi i'r crwner.