Newyddion S4C

Ymgynghori ar roi diwedd ar doriad treth i ysgolion preifat Cymru

23/09/2024
Dosbarth ysgol

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau cyfnod o ymgynghori ar gynllun i roi diwedd ar doriad treth i ysgolion annibynnol.

Byddai'r newid yn tynnu rhyddhad ardrethi annomestig elusennol ('charitable non-domestic rates relief') yn ôl o ysgolion preifat o 1 Ebrill 2025.

Bydd y cynnig yn golygu bod ysgolion annibynnol sydd â statws elusennol yn cael eu trin yn yr un ffordd ag ysgolion annibynnol eraill yng Nghymru at ddibenion ardrethi annomestig. 

Yng Nghymru, mae ysgolion preifat wedi eu cofrestru fel ysgolion annibynnol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: "Rydym yn credu y dylai ysgolion annibynnol sydd â statws elusennol yng Nghymru gael eu trin yn yr un ffordd â'r rhai nad ydynt yn elusennau, a dyna pam rydym yn cynnig dileu'r rhyddhad treth hwn.

"Byddai hyn yn golygu bod Cymru yn cyd-fynd â'r Alban ac mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu gwneud newidiadau tebyg yn Lloegr."

Mae 83 o ysgolion annibynnol wedi'u cofrestru yng Nghymru; ac mae 17 yn destun rhyddhad ardrethi annomestig elusennol sy'n werth tua £1.3m bob blwyddyn. 

Byddai'r arian a ryddheir drwy ddod â'r rhyddhad treth hwn i ben ar gael i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus lleol medd y llywodraeth.

Mae'r ymgynghoriad yn disgrifio cynnig Llywodraeth Cymru, gan ofyn am sylwadau. 

Bydd ar agor am 12 wythnos o 23 Medi ymlaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.