Ffrae gan rieni 'yn well na chosb droseddol' i fachgen 14 oed
Fe benderfynodd yr heddlu ag erlynwyr nad oedd angen cymryd camau pellach yn erbyn bachgen 14 oed oedd yn rhan o'r terfysgoedd dros yr haf am ei fod wedi cael cymaint o gerydd gan ei rieni.
Fe orfododd rhieni'r bachgen iddo fynd i'r orsaf heddlu.
Yn ôl Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Stephen Parkinson roedd cael ffrae gan ei fam a'i dad yn "fwy effeithiol" na chymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn.
Dywedodd hefyd bod yna rhai teuluoedd oedd yn gweld yr anrhefn fel math o weithgaredd hamdden.
"Rydyn ni wedi dod ar draws achosion, yn anecdotaidd, o deuluoedd yn gweld y peth fel diwrnod allan, mynd allan ac ymuno yn yr anrhefn."
Dywedodd Mr Parkinson bod erlynwyr yn "ymwybodol iawn" o'r risg o roi dedfrydau yn ddiangen i blant ar ôl iddynt ymwneud gyda'r terfysgoedd a welwyd ar draws Lloegr yn yr haf.
Un o'r diffynyddion mwyaf ifanc oedd bachgen 12 oed a gafodd orchymyn atgyfeirio am 12 mis am daflu cerrig at swyddogion heddlu.
"Weithiau yn anffodus mae'n rhaid i'r wladwriaeth ymyrryd. Canlyniad ymyrraeth fel yr un 12 oed yw gorchymyn atgyfeirio, sydd wedyn yn golygu y gall adferiad ddigwydd ac fe allwn ni eu harallgyfeirio nhw o lwybr troseddu. Dyna yw'r nod gyda rhai ifanc, i beidio eu gwneud nhw'n droseddwyr ond eu rhoi ar y llwybr cywir."
Yn ôl data sydd wedi dod i law'r asiantaeth newyddion PA gan yr heddlu ag erlynwyr mae mwy na 600 o bobl wedi eu cyhuddo am eu rhan yn yr anrhefn.
Mae mwy na 530 o'r rhain yn oedolion a mwy na 75 yn blant o dan 18 oed, sef tua 13% o'r cyfanswm i gyd.
Director of public prosecutions (DPP) Stephen Parkinson said the anger of the mother and father, who marched their son to a police station after discovering he had taken part in the disorder, was more effective than any action the criminal justice system would have taken.
Speaking to the PA news agency, he said in contrast, there were also families who viewed taking part in the disorder as a leisure activity.
He said: “We’ve come across instances, anecdotally, of families regarding it as a day out, to go and just join in the disorder.
“But conversely, we had an instance where a family marched their 14-year-old to the police station, having seen on social media that that individual had been involved in the disorder.
“And actually, we took the decision that the wrath that had been visited on that child by his parents was more effective than anything the criminal justice system could deliver.
“And so we took no further action.”
Mr Parkinson, who took up the post as head of the Crown Prosecution Service (CPS) in November last year, said prosecutors are “very alive” to the risk of children being criminalised unnecessarily, after becoming involved in the riots which erupted in some parts of the UK in the summer, in the wake of the Southport stabbings.
One of the youngest defendants was a 12-year-old boy, who hit the headlines because his mother chose to fly to Ibiza for a holiday the day before he was due in court.