Aled Glynne Davies: Crwner yn penderfynu fod cyn-olygydd Radio Cymru wedi marw drwy ddamwain
Aled Glynne Davies: Crwner yn penderfynu fod cyn-olygydd Radio Cymru wedi marw drwy ddamwain
Mae crwner wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol yn achos marwolaeth cyn-olygydd BBC Radio Cymru, Aled Glynne Davies.
Cafodd corff Mr Davies, oedd yn 65 oed, ei ddarganfod yn y dŵr ger Canolfan Hwylio Caerdydd ar 4 Ionawr y llynedd, ar ôl mynd ar goll ar Nos Galan 2022 a bu'r heddlu a grwpiau o wirfoddolwyr yn chwilio amdano am ddyddiau.
Fe ddywedodd y Crwner ei bod yn “debygol fod Aled Glynne wedi disgyn i mewn i’r afon wrth iddo gael galwad i droethi wrth fynd am dro, a hynny oherwydd cyflwr meddygol”.
Cafodd cwest ei agor a'i ohirio i'w farwolaeth ym mis Ionawr y llynedd, gyda'r Crwner Dr Sarah Richards yn nodi fod y farwolaeth yn un yr oedd angen ymchwilio ymhellach iddi.
Wrth ail-agor y cwest ddydd Llun, fe ddywedodd Crwner Cynorthwyol Canol De Cymru, Kate Robertson mai bwriad y gwrandawiad oedd darganfod gwybodaeth am amgylchiadau marwolaeth Mr Davies.
Ar ddechrau’r gwrandawiad fe ddarllenwyd datganiad gan y Crwner, oedd wedi ei baratoi gan weddw Mr Davies, Mrs Afryl Davies oedd yn sôn am hanes y ddau yn cyfarfod dros 40 mlynedd yn ôl, cyn mynd ymlaen i grynhoi bywydau’r ddau yn magu teulu yng Nghaerdydd, a hanes gyrfa Aled Glynne.
Fe nododd ddatganiad Mrs Davies fod ei gŵr wedi dioddef nifer o gyflyrau meddygol ers sawl blwyddyn, ac ei fod yn ddiweddar wedi derbyn diagnosis o apnea cwsg difrifol, a bod hynny yn ei achosi i boeni os oedd am orfod stopio gyrru car.
“Roedd Aled yn caru treulio amser efo’i deulu," meddai'r datganiad. "Dyma’r peth pwysicaf iddo. Roedd wrth ei fodd yn treulio amser efo’n plant, Gwenllian a Gruffudd, yn edrych ymlaen at briodas Gruff a Hannah, ac wrth ei fodd efo’n wyrion a’n wyres.”
Wrth drafod iechyd Aled Glynne yn y cyfnod cyn ei farwolaeth, fe ddywed datganiad Mrs Davies: “Ar y cyfan roedd Aled yn teimlo’n sâl, a doedd o ddim yn siŵr os taw effaith yr holl dabledi, taw’r cyflyrau oedd yn gyfrifol am ei wneud i deimlo felly.”
'Ofn dŵr'
Fe gafodd ail ddatganiad gan Mrs Davies ei ddarllen gan y Crwner yn ystod y gwrandawiad, oedd yn sôn yn benodol am y noson aeth Aled Glynne ar goll.
“Roedda ni wedi mynd i gael coctêl i fwyty Uisce ym Mhontcanna am tua 21:20, fe eisteddom ni tu allan nes i fwrdd fod yn barod i ni tu mewn am 22:00," meddai.
Fe aeth datganiad Mrs Davies ymlaen i ddweud ei bod hi a’i gŵr wedi trafod bob math o bethau gan gynnwys edrych ymlaen at wyliau yn ystod 2023, a syniadau oedd gan Aled ar gyfer ei araith ym mhriodas ei fab, Gruffudd, cyn iddynt gael anghytundeb am fod Mr Davies yn gor-ddefnyddio ei ffôn yn ystod y noson allan.
Fe aeth y ddau adref, heb ddod i waelod yr anghytuno ac fe benderfynodd y ddau i fynd am dro ar eu pennau eu hunain. A dyna’r tro olaf i Mrs Davies weld ei gŵr.
Fe ychwanegodd Mrs Davies yn ystod y gwrandawiad: “Roedd Aled ofn dŵr, roedd o’n methu nofio, ac yn mynd yn ofnadwy o oer, fyddai o ddim yn mynd yn agos at ddŵr.”
'Edrych ymlaen'
Fe glywodd y cwest gan y meddyg teulu Dr Sherif Khalifa o Feddygfa Canna, Caerdydd, a oedd yn adnabod ac yn gyfrifol am iechyd Mr Davies ers 2021.
Fe gadarnhaodd Dr Khalifa fod Mr Davies yn dioddef o nifer o gyflyrau meddygol, ac yn derbyn triniaethau a thabledi ar gyfer y cyflyrau hynny. “Roedd wastad yn teimlo’n flinedig ac yn wan ond er hynny roedd o’n edrych ymlaen at wneud pethau mewn bywyd, gyda’i deulu yn enwedig.”
Fe ofynodd y crwner wrth Dr Khalifa os oedd Mr Davies wedi dangos unrhyw arwyddion ei fod yn dioddef o unrhyw broblemau iechyd meddwl. “Roeddwn yn sicr nad oedd ganddo iselder nac unrhyw arwyddion fod ganddo or-bryder, a roeddwn wastad yn teimlo ei fod yn agored ac yn onest efo fi.”
Roedd adroddiad wedi ei baratoi i’r llys gan awdurdod harbwr Caerdydd, yn trafod lefelau a llif y dŵr yn ardal bae Caerdydd. Fe nododd yr adroddiad fod lefelau dŵr anarferol o uchel wedi eu profi yn ystod y cyfnod roedd Aled Glynne ar goll, ac roedd y crwner ei hun wedi ymweld â’r ardal y credir fod Mr Davies wedi mynd i mewn i’r dŵr.
Fe glywodd y llys gan y patholegydd Dr Meleri Morgan, a gynhaliodd archwiliad post mortem o gorff Mr Davies. Dywedodd Dr Morgan fod arwyddion amlwg o sgil effeithiau o’i gyflyrau iechyd, ond fod dim amlwg yn awgrymu fod un o’r cyflyrau hynny wedi achosi ei farwolaeth.
Roedd lefel alcohol yng ngwaed Mr Davies pan fu farw yn 72mg i bob litr o waed, sy’n cymharu â’r uchafswm lefel cyfreithlon i yrru car yn y DU, sy’n 80mg i bob litr. Fe ddywedodd y patholegydd fod hynny yn gyson gyda’r ffaith fod Mr Davies wedi yfed dau goctêl ac wedi marw yn ystod yr ychydig oriau ar ôl eu hyfed.
'Arwain yr ymdrech'
Roedd teulu Mr Davies yn feirniadol iawn o’r gwasanaeth a’r ymdrech a roddwyd i geisio dod o hyd iddo gan Heddlu De Cymru ar ôl iddo fynd ar goll. Fe glywodd y cwest gan sawl aelod o deulu Mr Davies eu bod wedi gorfod erfyn ar yr heddlu i wneud mwy i geisio casglu gwybodaeth o gamerau teledu cylch cyfyng (CCTV) yn ystod yr oriau wedi iddo fynd ar goll.
Dywedodd un aelod o deulu Mr Davies eu bod “nhw fel teulu yn teimlo mai nhw oedd yn arwain yr ymdrech i ddod o hyd i Aled, a bod yr heddlu yn cymryd arweiniad ganddyn nhw.”
Dywedodd Heddlu De Cymru wrth Newyddion S4C: "Ar hyn o bryd mae’r mater hwn yn destun adolygiad gan y Swyddfa Annibynnol i Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn dilyn cais gan deulu Aled Glynne Davies.
"Tra ein bod yn aros am eu canlyniad nid yw’n briodol gwneud sylw."
Fe ddywedodd y Crwner, Ms Robertson ei bod yn fodlon gyda’r dystiolaeth ddaeth i law yn dilyn marwolaeth Mr Davies, ac ei bod yn ddiolchgar i bob tyst ddaeth ymlaen i gynorthwyo’r achos.
Fe aeth y Crwner ymlaen i grynhoi fod Aled Glynne Davies wedi gadael ei gartref ar nos Galan 2022, a hynny i fynd am dro. Wrth fynd am dro, roedd wedi cael galwad natur, ac wedi disgyn i mewn i’r dŵr, gan fod lefel yr afon yn anarferol o uchel y noson honno.
Fe orffenodd y crwner ei chasgliad: “Yn dilyn y gwrandawiad bore ‘ma, roedd yn amlwg fod Aled yn ddyn bonheddig, poblogaidd, talentog ac uchel iawn ei barch. Dwi’n siŵr fod ei golled yn cael ei deimlo gan nifer. Fy nghydymdeimladau dwysaf i chi gyd."
Roedd Mr Davies yn Olygydd ar orsaf BBC Radio Cymru rhwng 1995 a 2006.
Cyn hynny, roedd yn Olygydd Newyddion BBC Radio Cymru ac yn Uwch Gynhyrchydd ar raglen Newyddion S4C.
Arweiniodd y tîm a sefydlodd gwefan Gymraeg gyntaf erioed y BBC – BBC Cymru’r Byd.
Fe sefydlodd y cwmni Goriad Cyfyngedig yn 2007, sy’n cynhyrchu rhaglenni teledu a radio a threfnu gweithdai a chyrsiau.
Roedd hefyd yn feirniad radio a theledu profiadol gan feirniadu rhaglenni ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru, Gwobrau Cyfryngau Cymru a’r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd.
Lluniau gan y teulu