Newyddion S4C

Y Canghellor i addo cyllid a fydd yn 'ail-adeiladu Prydain'

23/09/2024
Rachel Reeves

Mae disgwyl i'r Canghellor Rachel Reeves addo cyllid a fydd yn 'ail-adeiladu Prydain' yn ei haraith yng Nghynhadledd y blaid Lafur yn Lerpwl ddydd Llun. 

Fe fydd y canghellor yn mynnu fod "penderfyniadau anodd" am gyllid cyhoeddus angen cael eu gwneud i osgoi difrod economaidd, gan hefyd ddweud na fydd y wlad yn "dychwelyd i galedi". 

Mae disgwyl i benderfyniad y blaid i gael gwared ar y taliad tanwydd i fwyafrif pensiynwyr barhau i fod yn bwnc llosg. Mae nifer o undebau masnach yn mynnu tro pedol ar y polisi. 

Bydd y Canghellor yn dweud y bydd ei datganiad am y Gyllideb ar 30 Hydref yn sicrhau'r newid y gwnaeth Llafur ei addo yn yr etholiad. 

Mae disgwyl iddi hefyd addo na fydd yn cynyddu yswiriant gwladol, treth incwm a TAW. 

Fe fydd yn dweud hefyd fod y "gyllideb fechan wedi dangos i ni fod unrhyw gynllun heb sefydlogrwydd yn arwain at ddinistr."

Mae uwch-dîm Llafur wedi wynebu pwysau cynyddol yn ddiweddar, a hynny wedi iddyn nhw dderbyn rhoddion i dalu am eu dillad. 

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer na fydd yn derbyn rhoddion yn y dyfodol i dalu am ei ddillad.

Fe gyhoeddodd Angela Rayner a Rachel Reeves hefyd y bydden nhw'n gwneud yr un fath wrth symud ymlaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.