Newyddion S4C

Rhybudd bod y Dwyrain Canol yn wynebu 'trychineb'

23/09/2024
Ymosodiad ar Hezbollah yn Libanus

Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod y Dwyrain Canol yn wynebu "trychineb" a phryder bod y rhyfel yn ehangu.

Daw'r rhybudd wrth i'r rhyfel rhwng Israel a mudiad Hezbollah ddwysáu.

Dywedodd byddin Israel fod o gwmpas 150 o rocedi a thaflegrau wedi cael eu tanio tuag at eu tiriogaeth dros y penwythnos, gyda'r mwyafrif yn dod o Lebanon.

Yn y dyddiau diwethaf mae'r ddwy ochr wedi cynnal cyrchoedd sylweddol.

Mae Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu wedi addo parhau i weithredu oni bai bod Hezbollah yn pwyllo.

Fe wnaeth y brwydro rhwng Hezbollah ac Israel gynyddu ar 8 Hydref y llynedd, ddiwrnod yn unig wedi'r ymosodiad ar Israel gan Hamas.

Bu farw 1,200 o bobl gyda mwy na 250 yn cael eu dal yn wystlon yn ymosodiadau Hamas ar dde Israel. Mae 60,000 o bobl yn y gogledd wedi gorfod ffoi yn sgil ymosodiadau roced dyddiol gan Hezbollah ers hynny. 

Mae'r gwrthdaro diweddaraf wedi codi pryderon rhyngwladol.

Dywedodd pennaeth y Cenhedloedd Unedig, Antonio Gutteres ei fod yn "pryderu'r posibilrwydd o weld Lebanon yn trawsnewid i fod yn Gaza arall".

Mae'r Arlywydd Joe Biden wedi dweud y bydd Washington yn gwneud "popeth i sicrhau nad oes rhyfel ehangach yn dechrau."

Ychwanegodd yr Undeb Ewropeaidd ei bod yn "bryderus iawn" tra gwnaeth Ysgrifennydd Tramor y DU David Lammy alw am "gadoediad ar unwaith".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.