Newyddion S4C

Boris Johnson: ‘Rhaid bod yn bwyllog wrth lacio cyfyngiadau’ 

Sky News 12/07/2021
CC

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi dweud fod “pwyll” yn “hanfodol” wrth i’r llywodraeth baratoi i lacio rhagor o gyfyngiadau Covid-19. 

Bydd Boris Johnson yn cynnal cynhadledd brynhawn dydd Llun er mwyn datgelu os bydd camau olaf o’r llacio yn cael mynd yn eu blaen yn Lloegr o 19 Gorffennaf. 

Fel rhan o’r cam diwethaf o’r llacio, bydd pellhau cymdeithasol, y cyngor ar weithio o adref, yn ogystal â’r gofyniad gorfodol i wisgo mwgwd mewn rhai llefydd yn dod i ben. 

Ddydd Sul fe wnaeth y Gweinidog Brechu Nadhim Zahawi gadarnhau y bydd hi’n ddisgwyliad i bobl barhau i wisgo mwgwd ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar ôl i Boris Johnson wynebu beirniadaeth am y penderfyniad i waredu’r gofyniad yn gynharach. 

Mae disgwyl i’r Gweinidog Iechyd, Sajid Javid ddatgelu’r cynlluniau yn llawn yn Nhŷ’r Cyffredin. 

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.