Newyddion S4C

Astudiaeth 'arloesol' yn ceisio darganfod triniaeth newydd i Alzheimer’s a Parkinson’s

23/09/2024
Alzheimer's

Bydd astudiaeth newydd yn ceisio defnyddio therapi golau ac uwchsain (ultrasound) i drin clefyd Alzheimer’s, Parkinson’s a dementia.

Bydd y treial "arloesol" cyntaf o'i fath yn edrych ar y posibilrwydd o roi triniaeth i’r ymennydd gyda swigod bach arbennig.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Nottingham Trent yn credu y gallai technegau nad yw’n fewnwthiol (non-invasive) gynnig iachâd i glefydau fel Alzheimer’s, Parkinson’s a dementia.

Y gobaith yw y gallai’r swigod bach agor yr haen o bibellau gwaed sydd yn gwarchod yr ymennydd a chreu digon o le i gludo meddyginiaeth, er mwyn targedu’r ardal sydd angen triniaeth.

Mae’r haen yma’n gwarchod yr ymennydd rhag sylweddau niweidiol, ond weithiau mae hefyd yn gallu atal meddyginiaethau pwysig rhag cyrraedd yr ymennydd.

Dywedodd Dr Gareth Cave, pennaeth nanowyddoniaeth a throsgludiad cyffuriau yn Ysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg y brifysgol: “Nid yw’r clefydau yma yn gwneud gwahaniaeth rhwng pobl a'i gilydd ac unwaith maen nhw’n cael gafael, maen nhw’n diethrio pobl oddi wrth y rhai sydd yn eu caru fwyaf.

“Wrth i ni gyfuno gwybodaeth o sawl gwahanol faes, rydym yn ceisio darganfod ffordd hollol wahanol a gwirioneddol arloesol.

“Fe allai’r technegau pwerus ond fwy diogel yma o frwydro symptomau’r clefydau rhain ein harwain at driniaethau sy'n trawsnewid – ac achub – bywydau’r rhai sydd yn dioddef.”

Mae dros 944,000 o bobl yn y DU yn byw gyda dementia yn ôl y data diweddaraf.

Gyda phobl yn byw yn hirach, mae’r niferoedd yna ar gynnydd ac mae rhagolygon yn awgrymu y gallai dros filiwn o bobl yn y wlad fod â dementia erbyn 2030.

Mae’r gwaith yn cael ei ariannu gan dros £1 miliwn o’r Sefydliad Eranda Rothschild.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.