Menyw yn dioddef ymosodiad rhyw ‘difrifol’ mewn parc yng Nghaerdydd
Mae’r heddlu yn ymchwilio yn dilyn ymosodiad rhyw "difrifol" ar fenyw mewn parc yng Nghaerdydd yn ystod oriau man bore Sul.
Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw i Barc y Sblot am 03.25 fore Sul yn dilyn ymosodiad ar fenyw 44 oed.
Wedi'r digwyddiad fe wnaeth y fenyw dynnu sylw aelod o’r cyhoedd, a wnaeth gysylltu â’r heddlu.
Mae’r llu yn cynnal ymholiadau wrth geisio cadarnhau amgylchiadau’r ymosodiad.
Mae’r fenyw yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion heddlu arbenigol.
Fe fydd presenoldeb swyddogion yn y lleoliad wrth i’r ymchwilio barhau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Kath Barry: “Os oeddech chi yng nghyffiniau Parc y Sblot rhwng 02.00 a 04.00 fore Sul ac wedi gweld unrhyw un yn yr ardal, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth arall a allai gynorthwyo ein hymchwiliad, cysylltwch â ni.”
Gallai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2400316906.
Llun: Geograph.org.uk