Newyddion S4C

'Ein byd ar chwâl': Adeiladau Caerdydd yn goleuo'n wyrdd i godi ymwybyddiaeth o gyflwr prin

ITV Cymru 22/09/2024
Riaan Gopal

Mae mam o Gaerdydd wedi dweud bod byd ei theulu "ar chwâl" ar ôl i'w mab dderbyn diagnosis o gyflwr genetig prin.

Fe gafodd adeiladau yng Nghaerdydd eu goleuo'n wyrdd nos Sadwrn er mwyn codi ymwybyddiaeth o glefyd mitocondria (mitochondrial disease).

Mae clefyd mitocondria yn cyfeirio at grŵp o glefydau sy'n effeithio ar gynhyrchu ynni. Mae'n digwydd pan nad yw ein mitocondria yn gallu darparu'r egni sydd ei angen ar ein celloedd i weithio'n iawn.

Fe wnaeth Riaan Gopal dderbyn diagnosis o’r cyflwr ar ddechrau’r flwyddyn ac yntau ond yn 16 wythnos oed.

I ddechrau roedd wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dioddef o adlif difrifol (severe reflux).

Image
Riaan Gopal

Roedd Riaan yn ei chael hi'n anodd rhoi pwysau ymlaen a thyfu, felly roedd ei dîm meddygol yn credu bod rhywbeth arall yn achosi ei symptomau. 

Yn saith wythnos oed, fe wnaeth Riaan dderbyn diagnosis o golled clyw a oedd yn rhan o'r cyflwr genetig.

Ar ôl iddo gael ffit (seizure), fe gafodd Riaan ei roi mewn coma a'i symud i'r Uned Gofal Dwys. Fe gafodd ei rieni wybod fod ganddo glefyd mitocondria.

Nid oedden nhw'n ymwybodol bod gan y ddau ohonyn nhw enynnau pathogenig (newid yn DNA'r genyn sy'n gallu achosi neu gynyddu'r risg o ddatblygu clefyd), sy'n golygu bod ganddyn nhw siawns o un mewn pedwar o gael babi â'r cyflwr.

“Doedd gennym ni ddim syniad,” meddai ei fam, Kalpna Keshra. "Mae gennym ni ddau fab arall sy'n naw a chwech oed, ac yn ffodus maen nhw'n iach. Fe roedden ni'n anlwcus iawn gyda Riaan."

'Ein byd ar chwâl'

Mae gan Riaan, sydd bellach yn chwe mis oed, anhwylder genetig etifeddol prin, gyda newid yn y genyn KARS. Ef yw’r unigolyn cyntaf i brofi newid yn y genyn KARS 1 yng Nghymru, gyda dim ond 50 o achosion wedi’u hadrodd ledled y byd.

Mae ei rieni wedi cael gwybod y bydd eu hamser gyda'u mab yn gyfyngedig, gan fod ei salwch yn un fydd yn gwaethygu ac yn angheuol – nid oes triniaeth nag iachâd ar gyfer y cyflwr ar hyn o bryd.

"Mae ein byd ar chwâl, does dim geiriau i ddisgrifio'r diagnosis," meddai Kalpna.

"Roedden ni'n gwybod bod y canlyniadau ar gyfer clefyd mitocondria yn wael. Roedd ein meddygon yn agored iawn am hynny."

Er mwyn cael cymorth, fe gafodd y teulu eu cyfeirio at y Lily Foundation, sef elusen sy’n codi arian ar gyfer ymchwil i glefyd mitocondria.

Image
Adeiladau Caerdydd yn goleuo'n wyrdd i godi ymwybyddiaeth o gyflwr genetig prin

Fe gafodd dros 383 o adeiladau ledled y byd eu goleuo'n wyrdd nos Sadwrn i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

Fe roedd Caerdydd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch arbennig drwy oleuo rhai o'i hadeiladau.

Roedden nhw'n cynnwys Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas, Canolfan Mileniwm Cymru a Theml Shree Swaminarayan Caerdydd.

I Kalpna a'i theulu, mae'n ffordd bwysig o godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

“Mae mor bwysig cael y sgwrs fel bod pobl yn ymwybodol ohono,” meddai.

“Yn anffodus, mae realiti clefyd mitocondria, oherwydd y diffyg gwybodaeth amdano, yn aml mae’n cymryd amser hir i gael diagnosis.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.