Newyddion S4C

Dyn yn yr ysbyty yn dilyn achos o drywanu yng Nghaerdydd

22/09/2024
Seager Drive, Grangetown

Mae dyn yn yr ysbyty yn dilyn achos o drywanu yng Nghaerdydd, meddai'r heddlu.

Fe gafodd Heddlu'r De eu galw tua 21.50 nos Sadwrn i ddigwyddiad oedd yn "ymwneud â sawl pherson" ar Seager Drive yn Grangetown.

Mae'r llu wedi cadarnhau fod dyn 35 oed wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd wedi iddo gael ei drywanu.

Nid oes unrhyw un wedi ei arestio ar hyn o bryd ac mae'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.