Newyddion S4C

Pedwar wedi marw ar ôl saethu yn Alabama

22/09/2024
Five Points South Alabama

Mae o leiaf pedwar o bobol wedi marw a "dwsinau" wedi'u hanafu ar ôl saethu yn Birmingham, Alabama, meddai'r heddlu.

Fe gafodd Heddlu Birmingham eu galw i'r digwyddiad toc wedi 23.00 yn ardal Five Points South o'r ddinas yn ne-ddwyrain America nos Sadwrn.

Wrth siarad mewn cynhadledd newyddion, dywedodd y plismon Truman Fitzgerald o'r llu fod dau ddyn ac un ddynes wedi marw yn y fan a'r lle, gyda pherson arall wedi marw yn yr ysbyty.

Ychwanegodd Mr Fitzgerald fod gan o leiaf pedwar o'r rhai sydd wedi'u hanafu "anafiadau sy'n peryglu eu bywyd".

"Rydym yn credu bod sawl saethwr wedi saethu sawl gwaith at grŵp o bobl," meddai.

"Mae ein ditectifs yn gweithio'n galed i gadarnhau a wnaeth y saethwyr gerdded at y dioddefwyr neu yrru heibio mewn cerbyd, a dyna pam mae angen help y cyhoedd arnom."

Dywedodd y llu nad oes unrhyw un wedi cael ei arestio hyd yma.

Ond byddan nhw'n gwneud "popeth o fewn ein gallu" i ddarganfod pwy oedd yn gyfrifol, medden nhw.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.