Newyddion S4C

Gareth Southgate yn condemnio'r sylwadau hiliol tuag at chwaraewyr Lloegr 

The Guardian 12/07/2021
Saka a Kane

Mae rheolwr tîm pêl-droed Lloegr wedi condemnio’r cam-drin hiliol a wynebodd rhai o’r chwaraewyr yn dilyn colled Lloegr yn erbyn yr Eidal yn rownd derfynol Euro 2020 nos Sul.

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, dywedodd Gareth Southgate nad oedd y cam-drin yn adlewyrchu'r hyn mae'r tîm yn ei gynrychioli. 

Dywed The Guardian fod Heddlu’r Met wedi lansio ymchwiliad i’r sylwadau ar-lein. 

Yn gynharach ddydd Llun, fe ddywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson y dylai'r rhai sy'n gyfrifol am y cam-drin deimlo "cywilydd".

Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr: “Mae’r FA yn condemnio pob math o wahaniaethu yn gryf, ac rydym wedi ein dychryn gan yr hiliaeth ar-lein sydd wedi’i anelu at rai o chwaraewyr Lloegr ar gyfryngau cymdeithasol.”

Fe gollodd Lloegr 3-2 yn ystod y ciciau i’r smotyn, gyda Marcus Rashford, Jadon Sancho a Bukayo Saka yn methu ag sgorio yn ystod eu cyfleoedd.

Nid yw’r chwaraewyr wedi ymateb i’r cam-drin yn uniongyrchol, ond fe wnaeth tîm pêl-droed Lloegr ryddhau datganiad yn dweud eu bod nhw wedi’u “ffieiddio” gan y “cam-drin gwahaniaethol”. 

Darllenwch y stori’n llawn yma

Llun: Tîm Pêl-droed Lloegr 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.