Newyddion S4C

Mohamed Al Fayed: Dim cyhuddiadau wedi eu dwyn yn ei erbyn ar ddau achlysur

22/09/2024
Mohamed Al Fayed

Ni chafodd unrhyw gyhuddiadau eu dwyn yn erbyn cyn-berchennog Harrods, Mohamed Al Fayed, ar ddau achlysur er gwaethaf honiadau am gam-drin rhywiol yn ei erbyn.

Mae dros 20 o gyn-weithwyr benywaidd wedi rhannu cyhuddiadau o ymosodiadau a thrais corfforol gan y dyn busnes o’r Aifft mewn lleoliadau yn Llundain, Paris, St Tropez a Dubai, fel rhan o ymchwiliad gan y BBC.  Yn eu plith mae pum cyhuddiad o dreisio.

Bu farw Mr Al Fayed y llynedd yn 94 oed.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ddydd Sul ei fod wedi ystyried dwyn cyhuddiadau yn erbyn Mr Al Fayed yn 2009 a 2015, cyn dod i’r casgliad “na fyddai euogfarn yn bosibilrwydd realistig” ar y ddau achlysur.

Yn 2008, fe wnaeth Heddlu’r Met gynnal ymchwiliad ar ôl honiad gan ferch 15 oed fod Mr Al Fayed wedi ei ymosod arni hi’n rhywiol mewn ystafell fwrdd yn Harrods.

Cafodd tystiolaeth ei roi i CPS gan y llu, ond fe benderfynodd erlynwyr na fyddai yn dwyn unrhyw gyhuddiadau yn ei erbyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y CPS: “Fe wnaethon ni adolygu ffeiliau tystiolaeth a gyflwynwyd gan yr heddlu yn 2009 a 2015.

“I ddwyn erlyniad rhaid i’r CPS fod yn hyderus bod gobaith realistig o euogfarn – ym mhob achos edrychodd ein herlynwyr yn ofalus ar y dystiolaeth a daeth i’r casgliad nad oedd hyn yn wir.”

'Achos fyd eang'

Mae cyfreithiwr sydd yn cynrychioli dioddefwyr honedig wedi datgan y bydd yn cynrychioli 37 o gleientiaid sydd â chyhuddiadau yn erbyn Mr Al Fayed, ond bod y nifer o ferched sydd wedi cysylltu gyda honiadau bellach bron i 150.

Mae honiadau o ymosodiadau wedi dod o wledydd eraill bellach, gan gynnwys y DU, UDA, Canada, Ffrainc, Malaysia a Dubai.

Dywedodd y cyfreithiwr Bruce Drummond wrth y BBC: “Mae hwn yn achos fyd eang, nid just yn y Deyrnas Unedig. Fe wnaeth hyn ddigwydd ar draws y byd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Harrods bod y sefydliad bellach yn un “gwahanol iawn” i’r un yr oedd Mr Al Fayed yn berchen arno am 25 mlynedd. 

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.