Newyddion S4C

Amy Dowden 'mor hapus' i ddychwelyd i Strictly ar ôl brwydro canser y fron

22/09/2024
Amy Dowden / BBC

Mae seren Strictly Come Dancing, Amy Dowden, wedi dweud ei bod "mor hapus" yn dilyn ei pherfformiad byw cyntaf yn y gyfres ers iddi dderbyn triniaeth am ganser y fron y llynedd.

Fe wnaeth y ddawnswraig 34 oed o Gaerffili a’i phartner dawnsio newydd, y canwr JB Gill o'r grŵp pop JLS, gyrraedd brig y sgorfwrdd nos Sadwrn ar ôl derbyn 31 pwynt am eu waltz i gân When I Need You gan Leo Sayer.

Nid oedd Ms Dowden yn rhan o'r gyfres boblogaidd y llynedd oherwydd ei bod yn derbyn triniaeth cemotherapi a llawdriniaeth mastectomi.

Ond fe gyhoeddedd ym mis Chwefror ei bod wedi gwella ac yn bwriadu dychwelyd i Strictly Come Dancing wrth i’r gyfres dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed. 

Yn dilyn ei pherfformiad byw cyntaf nos Sadwrn, dywedodd y prif feirniad Shirley Ballas wrthi ei bod hi "adref, lle rwyt ti fod".

Ac wrth siarad ar drothwy dychwelyd i hyfforddi yn y gyfres, dywedodd Ms Dowden ei bod wrth ei bodd.

"Rwy'n ôl yn fy lle hapus yn gwneud yr hyn rwy'n ei garu fwyaf," meddai.

"Rwy'n meddwl y bydd yn hyfryd iawn, oherwydd mae'n mynd i fod yn brydferth i fy nheulu, oherwydd roedden nhw'n dioddef cymaint â fi wrth fy ngwylio i'n mynd drwyddo."

'Helpu'

Fe gafodd Ms Dowden ddiagnosis o ganser y fron ar ôl dod o hyd i lwmp yn ei bron noson yn unig gyn iddi ddathlu ei Mis Mêl yn Ebrill 2023. 

Fe benderfynodd nodi ei brwydr ar ôl iddi dderbyn ymateb cadarnhaol yn dilyn ei rhaglen dogfen ddiwethaf, Strictly Amy: Crohn’s And Me, oedd yn trafod yr heriau o fyw gyda chlefyd Crohn’s ers iddi fod yn ferch ifanc. 

“Os alla’i godi ymwybyddiaeth ac mae 10 o bobl yn gwirio ei hunain ar ôl gwylio’r rhaglen ddogfen, mae ‘na bosibilrwydd y gallai achub bywyd,” meddai. 

Yn ystod y rhaglen ddogfen, mae’r ddawnswraig hefyd yn trafod y profiad o dderbyn triniaeth ar gyfer ffrwythlondeb. 

Daeth hynny wedi iddi fynd drwy'r menopos fel rhan o’i thriniaeth canser.

Fe gafodd Ms Dowden driniaeth er mwyn casglu ei hwyau fel bod modd iddi a’i gŵr, Ben Jones, geisio am fabi yn y dyfodol.

Llun: BBC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.