Lluniau yn dangos difrod wedi tân mewn hen ysgol yn Abertawe
Mae lluniau gan ddrôn yn dangos y difrod gafodd ei achosi gan dân mewn hen adeilad ysgol yn Abertawe.
Cafodd sawl criw tân eu galw i hen adeilad Ysgol Gorseinon ar Ffordd Pontarddulais am 15.04 ddydd Gwener.
Fe wnaeth y criwiau ddefnyddio pibellau dŵr i geisio diffodd y tân, yn ogystal â chyfarpar anadlu i’r diffoddwyr.
Cafodd trigolion a busnesau lleol eu rhybuddio i gau drysau a ffenestri tra’r oedd y tân ar ei anterth.
Wedi pum awr, fe wnaeth y criwiau ddod â’u hymdrechion i ben am 20.03 ar ôl diffodd y tân.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru na fyddai ymchwiliad pellach yn cael ei gynnal.
Roedd yr adeilad, sydd yn eiddo i Gyngor Abertawe, yn wag a heb ei ddefnyddio “ers sawl blwyddyn”, yn ôl y cyngor.
Lluniau: Liam Matthews Photography