Newyddion S4C

Reform UK i gynnal cynhadledd yng Nghymru ym mis Tachwedd

Nigel Farage Senedd Cymru

Bydd Reform UK yn cynnal cynhadledd yng Nghymru ym mis Tachwedd, meddai arweinydd y blaid.

Dywedodd Nigel Farage y bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ar 8 Tachwedd yng Ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i Mr Farage ddweud y bydd Reform UK yn "gystadleuydd gwirioneddol" yn etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2026.

Nid oes gan Reform UK Aelodau yn Senedd Cymru ar hyn o bryd.

Ond mae'r blaid yn gobeithio manteisio ar y system bleidleisio cynrychiolaeth gyfrannol fydd yn cael ei defnyddio i ethol gwleidyddion i Senedd Cymru mewn dwy flynedd.

Yn y gorffennol mae'r system bleidleisio gyfrannol wedi bod o fudd i UKIP, sef y blaid yr oedd Mr Farage yn arfer ei harwain. 

Fe wnaeth Mr Farage adael UKIP yn 2018 i gyd-sefydlu'r Blaid Brexit, a gafodd ei hailenwi yn Reform UK yn 2021.

Fe enillodd Reform UK bum sedd yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf.

Er nad oedd yr un o'r seddi yng Nghymru, fe enillodd y blaid 16.9% o'r holl bleidleisiau yn y wlad - y tu ôl i Lafur a'r Ceidwadwyr yn unig.

Yn ogystal â Chymru, bydd y blaid yn cynnal digwyddiadau yn yr Alban ac ar draws gogledd-ddwyrain a de-orllewin Lloegr ym mis Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.