Newyddion S4C

Y Dirprwy Brif Weinidog yn addo datganoli pŵer o Lundain i ogledd Lloegr

21/09/2024
Angela Rayner

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi addo trosglwyddo pŵer o Lundain i ogledd Lloegr.

Mae Angela Rayner, sydd hefyd yn gyfrifol am gymunedau a thai, wedi dweud y bydd hi'n gwneud newidiadau "nad oes modd eu dadwneud" i ddeddfau datganoli er mwyn sicrhau "na fydd gogleddwyr yn parhau i gael eu rheoli o Whitehall".

Wrth siarad cyn ei haraith yn y Gynhadledd Lafur yn Lerpwl ddydd Sul, dywedodd Ms Rayner ei bod hi'n bwriadu trosglwyddo pŵer yn ôl i ardaloedd fel Sir Gaerhirfryn, Sir Lincoln, Hull a Dwyrain Sir Efrog trwy gytundebau datganoli.

Dywedodd Ms Rayner bod agwedd y Blaid Geidwadol mai "San Steffan sy'n gwybod orau" dros y 14 mlynedd diwethaf wedi arwain at "miliynau o bobl yn cael gadael ar ôl", gan eu "hesgeuluso", eu "hanwybyddu" a'u gwneud yn "anweledig".

"Mae economi Prydain wedi’i dal yn ôl a’i llusgo i lawr," meddai.

"Bydd y Llywodraeth Lafur hon yn defnyddio potensial ein heconomi, gan drosglwyddo pŵer yn ôl a rhoi rheolaeth i gymunedau, fel bod bob rhan o'r wlad yn cael cyfle i arloesi a ffynnu."

'Datgloi buddsoddiad'

Cafodd cynlluniau'r llywodraeth i ddatganoli pŵer i ardaloedd Hull a Dwyrain Sir Efrog, a Sir Lincoln eu cyhoeddi yn gynharach yn yr wythnos.

Os y gaiff y cytundebau eu cymeradwyo yn Nhŷ'r Cyffredin, fe fydd pwerau dros tai, creu swyddi a thrafnidiaeth cyhoeddus yn cael eu trosglwyddo i faer, wedi'i penodi ar ran yr awdurdodau.

Dywedodd Anne Handley, arweinydd Ceidwadol Cyngor Dwyrain Sir Efrog, ei bod yn gefnogol iawn o'r cynlluniau.

"Bydd hwn yn gyfle gwych i ddatgloi buddsoddiad ar gyfer y rhanbarth a gwella cydweithio strategol rhwng ardaloedd cynghorau Hull a Dwyrain Sir Efrog," meddai.

“Bydd y maer yn rhoi llais cryf i ranbarth Dwyrain Sir Efrog ac yn cefnogi cymunedau a busnesau lleol.”

'Chwyldro datganoli'

Fe wnaeth y Llywodraeth Geidwadol flaenorol gyhoeddi cynlluniau i ddatganoli pŵer i ogledd Lloegr fis Mawrth eleni, cyn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd Andy Burnham, y Maer dros Fanceinion Fwyaf, ar y pryd nad oedd y cynlluniau yn "mynd yn ddigon pell."

Ond wrth gyhoeddi'r cynlluniau diweddaraf, dywedodd Ms Rayner y bydda'r newid yn trosglwyddo pŵer o Lundain i arweinwyr o fewn cymunedau yn y gogledd.

"Bydd ein chwyldro datganoli yn symud pŵer oddi wrth San Steffan, gan ailgynnau tanau ein heconomi, rhyddhau buddsoddiad a sbarduno twf economaidd trwy ymddiried yn ein harweinwyr lleol sy’n adnabod eu hardaloedd orau," meddai.

"Ni fydd y Llywodraeth sy’n cwblhau datganoli yn y gogledd. Bydd y newid hwn yn newid dyfodol gogledd Lloegr fel dim byd arall.

"Ni fydd gogleddwyr bellach yn cael eu rheoli gan Whitehall. Bydd y newid yn un nad oes modd ei ddadwneud does dim mynd yn ôl, byddaf yn ei gyflawni."

Yn Araith y Brenin ym mis Gorffennaf, fe ymrwymodd y Llywodraeth i gyflwyno Bil Datganoli Lloegr i gyflawni ei hymrwymiad maniffesto ar ddatganoli.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.