Newyddion S4C

Dal dros 160 o yrwyr yn goryrru mewn dau bentref o fewn pythefnos

21/09/2024
Tonteg
Mae dros 160 o yrwyr wedi eu dal yn goryrru mewn dau bentref yn Rhondda Cynon Taf o fewn pythefnos.
 
Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi dal 163 o yrwyr yn torri'r terfynau cyflymder yng Nhoed-Elái a Thon-teg rhwng 21 Awst a 4 Medi. 
 
Daw'r ymgyrch arbennig yn dilyn cwynion gan drigolion am geir yn gyrru'n gyflym drwy eu pentrefi yn ystod y nos.
 
Fe gafodd yr ymgyrch ei gynnal gan Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu De Cymru, y Tîm Plismona Bro leol a Gan Bwyll.
 
Fe ddefnyddiodd y plismyn gynau mesur cyflymder mewn sawl lleoliad, gan gynnwys y brif ffordd, Heol yr Orsaf, Bryn y Goron, Heol Isaf a Stryd Elwyn.
 
Fe gafodd y rhai oedd yn gyrru dros y terfyn cyflymder eu tynnu drosodd gan yr heddlu.
 
Roedd un gyrrwr yn gyrru mwy na dwbl y terfyn cyflymder 50 mya mewn ardal 20 mya.
 
Mae 17 o rybuddion bellach wedi cael eu rhoi i yrwyr, meddai'r llu.
 
'Annerbyniol'
 
Dywedodd Rhingyll Smith o’r Uned Plismona’r Ffyrdd fod yna broblem gyrru "sylweddol" yn yr ardal.
 
"Rydym yn gwybod bod cyflymder gyrwyr wedi bod yn bryder i drigolion a phrofodd i fod yn broblem sylweddol gyda chymaint o gerbydau’n troseddu," meddai.
 
"Rwy’n gobeithio bod ein hymgyrch diweddar yn helpu i gyfleu'r neges bod hyn yn annerbyniol a bod y rhai sy’n gyrru’n anghyfrifol yn wynebu dirwy."
 
Ychwanegodd y bydd patrolau nos yr heddlu'n parhau.
 
Llun: Google Maps
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.