Dyn ifanc o Ddolgellau yn cystadlu mewn cystadleuaeth gweini bwyd ryngwladol
Bydd dyn ifanc o Ddolgellau yn cystadlu mewn cystadleuaeth gweini bwyd rhyngwladol yn Singapore.
Bydd Jack Williams, sy’n 18 oed, yn cystadlu yng nghystadleuaeth Gweinydd Ifanc y Byd am y cyfle i ennill £15,000.
Astudiodd Jack gwrs Lefel 2 mewn Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau, ac mae'n gweithio yng Ngwesty Penmaenuchaf ger ei dref enedigol.
Daw’r cyfle i gystadlu yn Singapore wedi iddo ennill rownd derfynol Cymru yn Abertawe.
“Do'n i ddim yn gallu credu 'y mod i wedi ennill i ddechrau,” meddai Jack.
“Dim ond ers dechrau yn y coleg ddwy flynedd yn ôl dwi wedi bod yn y byd lletygarwch, a ro'n i’n cystadlu yn erbyn rhai pobl brofiadol iawn.
“Fi oedd yr ieuengaf yno - pan ofynnodd pawb faint oedd fy oed doedden nhw ddim yn credu mai dim ond 18 o'n i!
“Wnes i ddim mynd yno yn meddwl y byddwn i’n ennill. Ro'n i yno am y profiad ac i gymryd y cyfan i mewn.
“Felly dwi'n falch iawn o fod yn mynd i Singapore, a dwi'n croesi fy mysedd y gallwn ni ddod a'r fuddugoliaeth yn ôl i Gymru.”
Cynhaliwyd rownd derfynol Cymru'r gystadleuaeth Cogydd Ifanc/Gweinydd Ifanc/Cymysgegydd Ifanc gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.
Trefnwyd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn dimau o dri, yn cynnwys cogydd, gweinydd a chymysgydd, a oedd wedyn yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r profiad cwsmer gorau, wrth gael eu beirniadu yn eu categorïau unigol.
Rhoddwyd bocs o gynhwysion i bob tîm, a’r dasg o greu pryd tri chwrs ynghyd ag aperitifs i’w gweini i bedwar gwestai a beirniad o fewn ffrâm amser o ddwy awr.
Fe'u barnwyd nid yn unig ar ansawdd y bwyd a'r gwasanaeth, ond hefyd ar gynaliadwyedd - felly roedd yn rhaid iddynt ddefnyddio'r holl gynhwysion, gan gynnwys unrhyw sbarion.
Ymunodd Jack â’r cogydd Dalton Weir, cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo sydd bellach yn The Toad yn Llandrillo-yn-Rhos, a’r cymysgydd James Borley, sy’n gweithio mewn bar coctel poblogaidd yng Nghaerdydd.
Gweinodd y tri: gwrs cyntaf o gegddu mewn saws gwin gwyn, yna prif gwrs o ffiled cig eidion gyda moron wedi'u stwffio mewn jus gwin coch, ac ar gyfer pwdin, tatin afal gyda chrwst pwff, afalau troellog a salad afal.
Fe wnaeth James hefyd yn ennill ei gategori, tra gorffennodd Dalton yn ail i’r cogydd Alex Dunham. Mae Alex yn gweithio ym mwyty Seren Michelin Whitebrook yn Nhrefynwy a bydd yn ymuno â Jack a James yn Singapore.
Roedd Rob Griffiths, sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr Coleg Meirion-Dwyfor, ac sy'n gweithio yn y Penmaenuchaf gyda Jack yn cystadlu hefyd.
Diolchodd Jack, a enillodd Wobr Cyflawnwr yr adran Lletygarwch ac Arlwyo yn y coleg y llynedd, i'w gyn-diwtoriaid Jo Reddicliffe, Elaine Evans a Mair Jones am bopeth yr oeddent wedi'i ddysgu iddo dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Roedd yr holl hyfforddiant ges i ganddyn nhw dros y ddwy flynedd o gymorth mawr,” meddai Jack.
“Hyd yn oed y manylion bach 'na fyddai cwsmeriaid ddim yn sylwi arnyn nhw oni bai eu bod yn chwilio.
“Mi wnes i fwynhau’r cwrs yn arw. Ro'n i'n gyffrous i ddod i'r coleg, a phan wnes i gyfarfod ag Elaine, Mair a Jo, ro'n i'n gallu dweud eu bod yn gwybod am beth roedden nhw'n siarad.
“Ro’n i’n hoff iawn o’r ochr ymarferol, gweini cwsmeriaid ar y dydd Iau, coginio iddyn nhw ar y dydd Gwener, a gweithio tuag at arholiadau tra ro'n i'n gwneud hyn.”