Newyddion S4C

'Ni yma i aros': Merched yn herio sylwadau ac agweddau cas tra'n gwylio pêl-droed

Caitlin Bennett a Roopa Vyas

"Dos yn ôl i'r gegin."

"Wyt ti hyd yn oed yn deall y rheol camsefyll?"

"Enwa'r chwaraewyr oedd yn chwarae yn rownd derfynol Cwpan y Byd 1998."

Yn ôl ffigyrau diweddar mudiad Kick It Out mae dros hanner y merched sydd yn gwylio gemau pêl-droed wedi profi ymddygiad neu iaith rywiaethol.

Roedd 42% wedi dweud eu bod nhw wedi cael eu cyffwrdd yn amhriodol a'u holi os oeddynt yn gwybod rheolau pêl-droed.

Mae rhai o gefnogwyr pêl-droed Cymru wedi rhannu eu profiadau o'r sylwadau maen nhw wedi derbyn tra'n gwylio'r gamp gyda Newyddion S4C.

'Gorfod profi fy hun'

Yn wreiddiol o Gaerffili mae Roopa Vyas wedi gwylio Lerpwl am nifer o flynyddoedd.

Treuliodd rhai blynyddoedd yn y brifysgol yn y ddinas ac mae wedi teithio i wylio'r clwb ar draws y DU ac Ewrop.

Dywedodd wrth Newyddion S4C bod hi'n teimlo'n aml bod cefnogwyr eraill yn gwneud iddi deimlo nad oedd yn normal iddi fod yn fenyw yng nghanol dynion yn gwylio pêl-droed.

"Mae stigma wedi bodoli erioed am ferched o fewn pêl-droed dynion," meddai.

"Dwi wedi tyfu fyny yn derbyn hynny, bod fi mynd i sefyll allan a dyw hynny ddim yn iawn - i fod yn onest mae'n eithaf trist."

Image
Roopa Vyas
Roopa Vyas tu allan i Anfield, stadiwm Lerpwl.

Mae hi wedi gorfod delio gyda nifer o sylwadau tra'n gwylio'r clwb mae'n ei chefnogi yn chwarae, ond dyw'r sylwadau ddim yn digwydd yn y stadiwm yn unig.

"Chi'n derbyn sylwadau fel 'dos yn ôl i'r gegin' a 'wyt ti'n gwybod y rheol camsefyll?' Pam nad ydyn ni'n gallu mwynhau'r pêl-droed fel pawb arall?

"Un o'r prif atgofion oedd pan oeddwn i mewn tafarn cyn y gêm. Roeddwn i'n cerdded i'r bar a byddai dynion yn gafael yn fy nghanol a fy symud tra oeddwn i'n cerdded heibio. Doedd hwnna ddim yn iawn.

"Dwi wedi gorfod profi fy mod i'n gefnogwr. Mae dynion wedi gofyn i mi enwi'r chwaraewyr neu brofi fy ngwybodaeth ar hanes y gamp. 

"Dyw hynny ddim yn rhywbeth normal i wneud."

'Dod i'r arfer'

Ers yn naw oed mae Caitlin Bennett wedi bod yn gefnogwr brwd i Gasnewydd.

Gyda'i thad a'i brawd roedd hi'n mynd i gemau cartref ac oddi cartref, ac yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol roedd hi'n gweithio i adran y wasg y clwb.

Yn ystod ei 15 mlynedd o gefnogi'r clwb mae hi wedi dweud bod y sylwadau ac agweddau rhywiaethol wedi ei normaleiddio.

"Ti'n dod i'r arfer gyda'r sylwadau fel merch, mae wedi cael ei normaleiddio, sydd yn drist iawn," meddai wrth Newyddion S4C.

Image
Caitlin Bennett
Caitlin Bennett tu allan i arwydd Gêm Hi Hefyd, mudiad helpodd hi sefydlu, yn stadim Casnewydd, Rodney Parade.

"Dwi wedi gorfod delio gyda phethau fel hyn ar nifer o adegau gwahanol, fel cefnogwr ac yn gweithio o fewn y diwydiant, yn anffodus mae'n rhywbeth chi'n dod i'r arfer gyda fe," meddai.

Tu allan i wylio pêl-droed, roedd Caitlin yn derbyn sylwadau cas pan ddechreuodd hi siarad ar ei chyfrif X am Gasnewydd a phêl-droed yn gyffredinol.

"Roeddwn i'n derbyn nifer o sylwadau ar Twitter, roeddwn i'n derbyn sylwadau am leisio fy marn," meddai.

"Dyna pryd ddechreuais i gael llond bol, y sylwadau roeddwn i'n derbyn wythnos ar ôl wythnos am ddweud beth roeddwn i'n meddwl, gwisgo crys pêl-droed neu hyd yn oed jyst yfed cwrw."

Ei Gêm Hi Hefyd

Fe gafodd Gêm Hi Hefyd ei sefydlu yn 2021 gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth am ragfarn ar sail rhyw yn erbyn chwaraewyr a chefnogwyr pêl-droed ar y cyd.

Caitlin Bennett oedd un o sylfaenwyr y mudiad, sydd wedi bod o gymorth iddi hi a nifer o gefnogwyr eraill.

"Dwi'n meddwl bod y mudiad wedi bod yn wych," meddai. "Wrth gwrs mae'r ystadegau yna ac mae rhai merched wedi cael profiadau erchyll.

"Ond mae Gêm Hi Hefyd wedi bod yn rhywbeth positif i ferched i ddangos bod 'na gefnogaeth yno. 

"Mae'n ymgyrch byd eang bellach oedd yn freuddwyd yn unig i gychwyn."

Kacie Evans yw llywydd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd Gêm Hi Hefyd ac mae hi wedi dal tocyn tymor yn Stadiwm Dinas Caerdydd ers oedd hi'n naw oed.

Mae mynd i gemau yn rhan fawr o'i phenwythnos, ond mae hi wedi derbyn cwestiynau gan bobl yn ei cheisio herio.

"Dwi wedi cael pobl yn fy herio ac eisiau i mi brofi fy mod i'n cefnogwr," meddai.

"Roedd un person wedi gofyn i mi enwi'r chwaraewyr oedd wedi chwarae yn rownd derfynol Cwpan y Byd 1998 ar ôl i mi ddweud fy mod i'n gefnogwr Caerdydd.

"Dyw hynny ddim yn rhywbeth rydych chi'n gofyn i gefnogwyr sydd yn dynion.

"Pan chi'n fenyw rydych chi'n teimlo fel bod chi'n gorfod profi bod gennych chi wybodaeth ac yn deall pêl-droed.

“Dyw e ddim yn deimlad neis, mae’n teimlo’n frawychus, bod yn rhaid i chi brofi yn lle datgan eich diddordebau a bod pobl yn derbyn hynny."

Image
Kacie Evans
Mae Kacie Evans yn mynd i bob gêm Caerdydd gyda'i mam-gu a thad-cu.

'Galw nhw allan'

Mae ymgyrch Kick It Out yn galw ar gefnogwyr i herio ac adrodd i'r awdurdodau pan maen nhw'n clywed sylwadau neu weld agweddau rhywiaethol tuag at gefnogwyr yn ystod gemau.

Dywedodd Mared Rhys, cefnogwr Cymru a Bangor 1876 wrth Newyddion S4C bod angen mwy o gymorth i ferched wrth adrodd digwyddiadau o'r fath yma.

“‘Da ni’n 2024 wan, dylia petha fel hyn ddim digwydd," meddai.

“Os ydi o’n rwbath sy’n digwydd i ti, allai ddychmygu bod o’n rwbath eitha anodd i drafod. Ond os ma' un person yn trafod, ma’n agor drws i eraill siarad, ma’n fath o domino effect.

"Ma' angen neud o’n fwy clir sut ma' adrodd petha fel'ma, lle yn union ma' nhw fod i fynd a rhoi cymorth iddyn nhw drwy'r broses."

Ychwanegodd Caitlin Bennett bod angen i ddynion herio eu ffrindiau os ydyn nhw'n gwneud sylwadau tuag at ferched.

"Os ydy dynion yn gallu galw eu ffrindiau allan, dwi'n meddwl bod hynny'n rhan fawr o'r broblem," meddai.

"Does gen i ddim yr atebion i gyd, ond efallai un diwrnod bydd gan y dynion 'ma ferched eu hunain sydd yn mynd i gemau neu yn chwarae pêl-droed, a sut bydden nhw'n teimlo pe bai eu merched yn derbyn sylwadau fel rhain?

"Mae angen bod yn agored i'r ffaith bod merched yn rhan o bêl-droed, a dyw hynny ddim y mynd i newid."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.