Cymru Premier JD: Y Fflint, Cei Connah a Chaernarfon yn teithio tua'r de
Bydd Y Fflint, Cei Connah a Chaernarfon yn teithio tua'r de ddydd Sadwrn wrth i dair gêm gael eu chwarae yn y Cymru Premier JD.
Er ei bod hi dal yn gynnar yn y tymor, mae gan y tair gêm arwyddocâd arbennig i bob tîm.
Dyma gipolwg ar y gemau.
Llansawel (12fed) v Y Fflint (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Chwe gêm a chwe cholled yn olynol i Lansawel ers eu dyrchafiad dros yr haf, a bydd tîm Andy Dyer yn benderfynol o ddod a’r rhediad siomedig i ben brynhawn Sadwrn.
Y Fflint yw’r tîm arall a esgynnodd i’r uwch gynghrair eleni, ac ar ôl dechrau’n araf mae’r Sidanwyr wedi ffeindio eu traed bellach gan ennill dwy gêm yn olynol a chodi allan o safleoedd y cwymp.
Cafodd clwb presennol Llansawel ei ffurfio yn 2009, a hon fydd eu gêm gyntaf erioed yn erbyn Y Fflint.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ❌❌❌❌❌
Y Fflint: ͏❌❌❌✅✅
Met Caerdydd (2il) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl cychwyn campus i’r tymor, daeth rhediad di-guro Met Caerdydd i ben gyda cholled o 2-1 yn erbyn Y Drenewydd nos Wener ddiwethaf.
Er y golled, fe lwyddodd Ryan Reynolds i sgorio unwaith eto i’r myfyrwyr, ac mae’r chwaraewr canol cae yn gydradd brif sgoriwr y gynghrair, ac wedi cyfrannu at fwy o goliau na neb arall (sgorio 4, creu 2).
Mae Cei Connah mewn sefyllfa anghyfarwydd i lawr yn yr 8fed safle ar ôl colli eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn Y Barri a Phen-y-bont.
Ond mae’r Nomadiaid wedi ennill chwech o’u saith gornest flaenorol yn erbyn Met Caerdydd, a gyda gêm wrth gefn bydd Billy Paynter yn gobeithio troi’r gornel dros y penwythnos.
Roedd hi’n noson arbennig i Met Caerdydd nos Fawrth gyda’r myfyrwyr yn chwalu Goytre United o 9-1 yng Nghwpan Nathaniel MG, tra bod Cei Connah wedi brwydro ‘nôl i ennill 3-2 gartref yn erbyn Caernarfon.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏✅➖✅✅❌
Cei Connah: ͏➖✅✅❌❌
Y Barri (7fed) v Caernarfon (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Un pwynt sy’n gwahanu’r Barri a Chaernarfon yn yr hanner isaf, ond mae gan y Cofis gêm wrth gefn i’w chwarae’n erbyn Y Seintiau Newydd.
Sgoriodd blaenwr Caernarfon, Zack Clarke hatric yn erbyn Llansawel y penwythnos diwethaf i ddod yn hafal â Ryan Reynolds ac ymosodwr Y Barri, Ollie Hulbert ar frig rhestr y prif sgorwyr (4 gôl yr un).
Heb gynnwys y gemau ail gyfle, mae Caernarfon yn anelu i ennill dwy gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers Hydref 2023.
Y tîm oddi cartref sydd wedi ennill y pum ornest ddiwethaf rhwng y timau yma (Barri’n ennill dwy ar yr Oval, Cfon yn ennill tair ar Barc Jenner), a bydd y Cofis yn gobeithio y bydd y patrwm yn parhau brynhawn Sadwrn.
Mae’r Barri wedi sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG ar ôl curo Adar Gleision Trethomas nos Fawrth, ond mae Caernarfon allan o’r gystadleuaeth yn dilyn eu colled yn erbyn Cei Connah.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌❌✅✅❌
Caernarfon: ✅➖❌❌✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun