Galw ar bobl ifanc i ‘gadw’n ddiogel’ ar draethau Sir Benfro
Mae galwadau ar bobl ifanc yn Sir Benfro i gadw’n ddiogel wrth fwynhau’r traethau lleol dros yr haf.
Daw’r neges gan Gyngor Sir Penfro, Heddlu Dyfed Powys ac asiantaethau lleol eraill.
Yn ôl un o aelodau cabinet y cyngor sir, mae wedi bod yn “flwyddyn anodd i bobl ifanc”, ond maen nhw’n annog ieuenctid sydd yn mynd allan i gymdeithasu i wneud hynny’n ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros wasanaethau cymdeithasol: “Mae’r awydd i gymdeithasu a mwynhau treulio amser ar y traeth yn naturiol. Ond gwnewch hynny’n ddiogel, plîs.”
Mae’r cyngor yn bryderus am broblemau yn codi yn gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau.
“Os ydych chi’n riant, cynghorwch eich plentyn i beidio â chyfarfod ag eraill ar draethau anghysbell heb gysylltiad ffôn symudol da. Dydyn ni ddim wedi gweld problemau o’r fath hyd yn hyn, ond os caiff pobl ifanc broblem yn gysylltiedig â chyffuriau neu alcohol ar draeth anghysbell, mae’n anoddach o lawer iddynt gael help. Yr un yw’r sefyllfa os bydd problem yn gysylltiedig ag ymddygiad di-hid.”
Daw’r neges i fwynhau’r amgylchedd lleol yn barchus yn dilyn digwyddiadau lle cafodd sbwriel ei adael ar draethau’r sir, gan gynnwys caniau a photeli.
“Ar y cyfan, mae pobl ifanc yn synhwyrol ac rydym yn gobeithio mai digwyddiadau unigol oedd y rhain, ond hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i’w hatgoffa i barchu’r amgylchedd, rhoi sbwriel mewn biniau neu fynd â sbwriel adref gyda nhw,” ychwanegodd Ms Hodgson.
‘Effaith negyddol’
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro hefyd yn adrodd yr un neges.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirdydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Yn ogystal â chael effaith negyddol ar bobl eraill sydd eisiau mwynhau’r traeth, gall gweithredoedd fel gadael sbwriel gael effeithiau negyddol ar fywyd gwyllt hefyd.
“Byddem yn annog pawb i droedio’n ysgafn wrth iddyn nhw fwynhau Arfordir Penfro, fel bod pawb sy’n ymweld neu sy’n galw Sir Benfro yn gartref yn gallu gwneud hynny’n ddiogel.”