Arestio pedwar aelod o staff ar amheuaeth o ymosod yng Ngharchar y Parc
Arestio pedwar aelod o staff ar amheuaeth o ymosod yng Ngharchar y Parc
Mae pedwar aelod o staff wedi eu harestio ar amheuaeth o ymosod ac o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus wedi adroddiadau o nifer o ddigwyddiadau yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Heddlu'r De fod dynes 23 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, dyn 45 oed o Bontycymer, dyn 25 oed o Ferthyr Tudful a dyn 34 oed o Lanelli wedi cael eu harestio.
Dywedodd y ditectif Brif Arolygydd Dean Taylor: "Fe wnaethon ni dderbyn pryderon am ymddygiad staff yn HMP Parc ddydd Mercher.
"Mae swyddogion yn nyddiau cynnar yr ymchwiliad ar hyn o bryd ac yn gweithio'n agos gyda G4S wrth i'r ymchwiliadau barhau."
Dywedodd llefarydd ar ran Carchar y Parc: “Mae mwyafrif helaeth ein staff yn weithgar ac yn onest.
“Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gael gwared ar unrhyw ddrwgweithredu.
“Rydym yn cymryd yr honiadau hyn o ddifrif ac yn cefnogi’r heddlu’n llawn gyda’u hymchwiliad.”
Pryderon cynyddol
Ym mis Mai, fe wnaeth llywodraeth Geidwadol y DU wynebu galwadau i redeg y carchar yn lle cwmni preifat G4S, ynghanol pryderon am ddefnyddio cyffuriau a marwolaethau yn y carchar.
Mae G4S wedi rheoli’r carchar ers iddo agor yn 1997 a derbyniodd gontract 10 mlynedd i barhau i’w weithredu yn 2022.
Dywedodd y cyn-weinidog cyfiawnder Edward Argar ar y pryd fod y cytundeb “yn parhau i berfformio’n dda”.
Dywedodd gweinidog cyfiawnder cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, wrth y Senedd ddydd Mercher fod sefyllfa’r carchar bellach yn “llawer mwy sefydlog”.
Dywedodd iddi gwrdd ag Ian Barrow, pennaeth Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM Cymru, ym mis Awst, a roddodd sicrwydd iddi “ar y cynnydd a wnaed yn Parc” ers y marwolaethau yn y ddalfa yn gynharach eleni.
Ychwanegodd Ms Hutt y byddai'n ymweld â'r carchar yn ddiweddarach y mis hwn gyda'r Arglwydd Timpson, gweinidog carchardai llywodraeth y DU.