Pump arall yn ymddangos yn y llys wedi’u cyhuddo o derfysg yn Nhrelái
Mae pump yn rhagor o bobl wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â'r terfysg yn sgil marwolaethau dau fachgen yn Nhrelái y llynedd.
Bu farw Kyrees Sullivan, 16 oed, a Harvey Evans, 15 oed, ar 22 Mai 2023 ar ôl gwrthdrawiad ar feic trydan. Roedd lluniau CCTV yn dangos y ddau yn cael eu dilyn gan fan Heddlu De Cymru funudau cyn y gwrthdrawiad.
Cafodd swyddogion heddlu eu hanafu, ceir eu llosgi ac eiddo ei ddifrodi mewn terfysg yno, ar ôl tensiwn rhwng pobl leol a swyddogion.
Ymddangosodd pum oedolyn yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener wedi'u cyhuddo o droseddau yn ymwneud â'r anhrefn.
Cafodd Lee Robinson, 37, o Gaerdydd a McKenzie Pring, 19, eu cyhuddo o derfysg, fe gafodd Janine Reffell, 53, o Drelái, ei chyhuddo o niwed troseddol, ac fe gafodd Morgan Williams, 18, o Bentwyn a Jayden Williams, 18, o Grangetown, eu cyhuddo o fygwth achosi niwed troseddol.
Cafodd y diffynyddion eu rhyddhau ar fechnïaeth ddiamodol heblaw am Pring, a ymddangosodd drwy gyswllt fideo o garchar HMP Parc.
Pledio'n euog
Fe blediodd Reffell a'r efeilliaid, Morgan a Jayden Williams, yn euog i'w troseddau.
Bydd Reffell yn ymddangos nesaf yn y llys ar 26 Tachwedd i gael ei ddedfrydu.
Bydd Morgan a Jayden Williams yn cael eu dedfrydu ar 21 Hydref gyda gweddill y diffynyddion.
Daw'r gwrandawiad wedi i 17 o bobl eraill ymddangos yn y llys ddydd Iau wedi eu cyhuddo o derfysg, gyda'r holl achosion yn cael eu hanfon i Lys y Goron Caerdydd ar gyfer 21 Hydref.