Newyddion S4C

Rhybudd melyn am law i'r mwyafrif o Gymru

22/09/2024
glaw cymru.png

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law i'r mwyafrif o Gymru ddydd Sul. 

Fe fydd y rhybudd mewn grym o 00:00 tan 23:59. 

Daw'r rhybudd yn dilyn cyfnod o dywydd ansefydlog i Gymru dros y dyddiau diwethaf, gan ddod â chyfnod o dywydd braf i ben.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai llifogydd arwain at amodau gyrru anodd, gyda siawns fach y gallai cymunedau gwledig gael eu hynysu yn llifogydd ar y ffyrdd. 

Gall oedi arwain at wasanaethau trên a bws yn cael eu canslo hefyd yn ôl y Swyddfa Dywydd. 

Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar bob sir heblaw am Ynys Môn.  

Cafodd rhybudd melyn am dywydd stormus i Gymru gyfan ei gyhoeddi ar gyfer dydd Sadwrn, a hynny wedi rhybudd melyn blaenorol am fellt, gwynt a chenllysg i rannau o Gymru ddydd Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.