Arestio dyn wedi ymchwiliad i 'becyn amheus' yng ngorsaf heddlu canol Abertawe
20/09/2024
Mae Heddlu'r De wedi arestio dyn 37 oed o Abertawe ar amheuaeth o gyfathrebu gwybodaeth ffug, wedi i "becyn amheus" gael ei adael yng ngorsaf heddlu canol y ddinas fore dydd Gwener.
Roedd cordon mewn lle yn safle'r digwyddiad yn Grove Place yn y ddinas am gyfnod, cyn cael ei godi erbyn ganol bore.
Yn dilyn archwiliad o'r pecyn, daeth swyddogion y llu i'r casgliad ei fod yn ddiogel am 09:45.
Llun: Google Maps