Newyddion S4C

Aaron Ramsey i golli gemau Cymru a Chaerdydd oherwydd anaf

20/09/2024
Aaron Ramsey

Mae'n debygol na fydd capten tîm pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey, yn chwarae dros ei wlad yn ystod gemau’r hydref oherwydd anaf. 

Fe wnaeth y chwaraewr canol cae ddioddef anaf i'w goes ar ôl dod ymlaen fel eilydd yn ystod gêm Cymru yn erbyn Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd ddechrau mis Medi.

Nid oedd yn holliach ar gyfer gêm Caerdydd yn erbyn Derby ddydd Sadwrn diwethaf, ac mae'n edrych yn debygol na fydd ar gael ar gyfer gweddill ymgyrch Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd, sy'n dod i ben ym mis Tachwedd.

“Bydd yr anaf yn cymryd rhai wythnosau. Bydd yn cael sgan ymhen pythefnos,” meddai rheolwr Caerdydd, Erol Bulut.

“Yn ôl y staff meddygol, fe allai fod [allan] am wyth i 10 wythnos.”

Llun: Asiantaeth Huw Evans

 

 

 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.