Newyddion S4C

Rhagor o gyhuddiadau rhyw yn erbyn cyn-berchennog Harrods

20/09/2024
Al Fayed

Mae mwy o ferched wedi dweud bod cyn-berchennog Harrods, y diweddar Mohamed Al-Fayed, wedi ymosod arnyn nhw'n rhywiol pan oedden nhw'n gweithio yn y siop foethus yn Llundain.

Mae un dynes sydd wedi dod ymlaen, wedi dweud wrth y BBC ei bod yn credu fod yr heddlu bron wedi arestio Mr Al-Fayed ar sail ei honiadau ychydig ddyddiau cyn iddo farw ym mis Awst 2023.

Mae dros 20 o gyn-weithwyr benywaidd wedi rhannu cyhuddiadau o ymosodiadau a thrais corfforol gan y dyn busnes o’r Aifft mewn lleoliadau yn Llundain, Paris, St Tropez a Dubai, fel rhan o ymchwiliad gan y BBC. 

Yn eu plith mae pum cyhuddiad o dreisio. Bu farw Mr Al Fayed y llynedd yn 94 oed.

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, mae disgwyl i dîm cyfreithiol sy'n rhan o'r ymchwiliad rannu mwy o fanylion am honniad yn erbyn Harrods sy'n dweud fod y siop wedi methu â darparu system waith diogel i'w gweithwyr.

'Sioc llwyr'

Ar ôl cyhoeddi’r ymchwiliad ddydd Iau, fe wnaeth dynes y mae’r BBC yn ei galw'n Melanie ddweud bod Mr Al-Fayed wedi ymosod arni'n rhywiol.

Roedd Melanie wedi gweithio yn Harrods cyn 2010, gan gyfarfod â Mr Al-Fayed mewn cyfarfodydd ar ddau achlysur cyn cael ei galw i'w fflat, meddai'r BBC.

Dywedodd Melanie: “Fe eisteddodd i lawr wrth fy ymyl… Fe ofynnodd i mi ddychwelyd ychydig wythnosau’n ddiweddarach i aros yn y fflatiau'r noson cyn arwerthiant Harrods – ac nid oedd am adael i mi fynd nes i mi gytuno i hynny.

“Wrth i mi sefyll i adael, dyna pryd y rhoddodd ei ddwylo ar fy mron a dweud pethau eithaf ffiaidd. Roeddwn i mewn sioc llwyr. Fe wnes i droi o gwmpas a cherdded allan.”

Penderfynodd Melanie fynd at yr heddlu yn 2023, a dywedodd iddi gael gwybod yn ddiweddarach eu bod yn bwriadu arestio Mr Al-Fayed y flwyddyn honno.

Ond roedd yn rhy sâl i gael ei holi, a bu farw ym mis Awst 2023, meddai'r BBC.

Dywedodd perchnogion presennol Harrods eu bod wedi eu “brawychu’n llwyr” gan yr honiadau o gam-drin yn ei erbyn, gan ychwanegu: “Fel busnes, fe wnaethon ni adael ein gweithwyr a oedd yn ddioddefwyr iddo i lawr, ac am hyn, rydyn ni’n ymddiheuro’n ddiffuant.”

Mae'r siop bellach wedi sefydlu tudalen ar ei gwefan yn gwahodd cyn-weithwyr i roi gwybod os oes ganddyn nhw honiadau.

Cyhuddiadau

Roedd Mr Al-Fayed wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ac aflonyddu sawl menyw pan oedd yn fyw, ond ni wnaeth ymchwiliad gan yr heddlu yn 2015 arwain at unrhyw gyhuddiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Harrods bod y sefydliad bellach yn un “gwahanol iawn” i’r un yr oedd Mr Al-Fayed yn berchen arno am 25 mlynedd.

“Dyma pam, ers i wybodaeth newydd ddod i’r amlwg yn 2023 am honiadau hanesyddol o gam-drin rhywiol gan Al-Fayed, mae wedi bod yn flaenoriaeth i ni setlo hawliadau yn y ffordd gyflymaf bosibl, gan osgoi achosion cyfreithiol hirfaith i’r menywod dan sylw.

“Mae’r broses hon yn dal i fod ar gael i unrhyw weithwyr presennol neu gyn-weithwyr Harrods.”

Fe ddaeth yr Eifftiwr Mohamed Al-Fayed yn berchennog ar Harrods yn 1985, ac yn ddiweddarach fe brynodd Glwb Pêl-droed Fulham.

Bu farw ei fab Dodi Al-Fayed, a’i gariad, y Tywosoges Diana, mewn gwrthdrawiad car yn 1997.

 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.