Newyddion S4C

Penderfyniad y Llywodraeth i waredu'r taliad tanwydd i fwyafrif pensiynwyr yn dal i fod yn bwnc llosg

19/09/2024

Penderfyniad y Llywodraeth i waredu'r taliad tanwydd i fwyafrif pensiynwyr yn dal i fod yn bwnc llosg

Ar ddiwrnod anarferol o braf ym mis Medi mae caledi'r gaeaf yn teimlo'n bell iawn i ffwrdd.

Ond dros baned ym Mrynaman, mae penderfyniad y Llywodraeth i waredu'r taliad tanwydd i fwyafrif pensiynwyr Prydain yn dal i fod yn bwnc llosg.

"Bydd rhai ddim yn gweld eisiau fe ond llawer mwy yn diodde bod nhw'n ffaelu cael yr arian."

"Maen nhw'n dibynnu arno fe."

"Mae llawer o bobl mewn gwaeth lle na fi ond hoffen i tasen nhw ddim yn neud beth maen nhw'n mynd i wneud."

Bron i 60 milltir i ffwrdd ym Mae Caerdydd, y trafod yn parhau.

Pleidlais wedi'i galw gan y Ceidwadwyr gyda chefnogaeth Plaid Cymru yn gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gefnu ar y cynllun.

"These people are our parents, grandparents, neighbours, friends."

"Ni'n blaid sy'n ymwrthod yn llwyr ag ideoleg a pholisiau llymder.

"There is a £22 billion black hole in the public purse and difficult decisions are now being taken..."

Does gan Lywodraeth Cymru ddim pwerau dros yr arian felly pleidlais symbolaidd yn unig oedd hon.

"Ni wedi colli'r bleidlais heno gan un bleidlais.

"Mae'r Blaid Lafur wedi pleidleisio yn erbyn sicrhau bod yn winter fuel payments yn mynd i gario 'mlaen.

"Mae'n drist iawn."

Mae disgwyl y bydd tua 500,000 o bobl yng Nghymru yn colli'r taliad o £300 y gaeaf hwn.

Mae elusennau sy'n helpu pobl hŷn yn poeni.

"'Mond tri mis o rybudd maen nhw 'di cael sydd ddim yn lot o amser i drio dod lan â cynllun newydd.

"Bydd y gaeaf yn galed."

Mynnu bod dim dewis ond cyfyngu ar bwy sy'n gymwys i dderbyn e mae Llywodraeth Prydain.

Maen nhw'n dadlau bod rhaid ceisio llenwi'r twll du ariannol gafodd ei adael gan y Ceidwadwyr.

Nôl ym Mrynaman, mae sawl un am iddyn nhw ailystyried ac yn cynnig cyngor i'r gwleidyddion.

"Mae eisiau nhw edrych ar ffyrdd eraill o gosbi y cyfoethog a dim tynnu wrth y tlodion."

"Means-testing, mae angen ar rai pobl i gael e, a nhw dylai gael e."

"Mae isie profi faint sydd gyda pawb a pwy sydd wir angen y taliadau."

Os na fydd tro pedol gan Lywodraeth Syr Keir Starmer fydd y gaeaf yn galed i nifer gyda phenderfyniadau anodd i'w gwneud ynglŷn â lle bydd eu punnoedd prin yn mynd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.